Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn arddangos pŵer trawsnewidiol ymchwil prifysgolion Cymru

Heddiw, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi datgelu adroddiad arloesol sy’n rhoi cipolwg ar yr ymchwil sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion Cymru a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar bobl.

Comisiynodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru King’s College London i gynhyrchu ‘Effeithiau ymchwil prifysgolion Cymru’, sef dadansoddiad o 280 o astudiaethau achos effeithiaua gyflwynwyd i’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2021. Mae’r dadansoddiad hwn yn taflu goleuni ar y ffyrdd niferus mae ymchwil prifysgolion Cymru yn cyfoethogi cymunedau lleol ac yn gwneud gwahaniaeth ar draws y byd.

Mae’r adroddiad ‘Creu Effaith’, a ddyluniwyd mewn ymateb uniongyrchol i’r dadansoddiad llawn, yn rhoi trosolwg deinamig a lefel uchel o’r canfyddiadau craidd.



Mae’r adroddiad , a ariann wyd mewn cydweithrediad â Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru, a Rhwydwaith Arloesi Cymru yn datgelu ystod o ganfyddiadau, gan danlinellu dyfnder ac ehangder y cyfraniadau a wneir gan ymchwil prifysgolion Cymru.

Roedd chwarter o effaith yr ymchwil o fudd i blant a phobl ifanc, ond nid dyna’r cyfan . Mae cyfanswm o 25 o wahanol grwpiau o bobl wedi elwa o effaith ymchwil Cymru, o deuluoedd i ofalwyr, llunwyr polisi i’r henoed. Mae ffocws lleol yn amlwg gan fod 70% o’r ymchwil a adroddwyd wedi cael effaith uniongyrchol o fewn Cymru. Eto i gyd, ni ellir gwadu’r cyrhaeddiad byd eang, gyda dros 60% yn ymestyn yn rhyngwladol i wledydd fel Awstralia, Tsieina, Norwy, a Japan, sy’n p wysleisio arwyddocâd byd eang a c yn dangos cyrhaeddiad eang ein prifysgolion Cymreig.

O ran yr economi, roedd traean o’r astudiaethau achos yn dangos canlyniadau ariannol diriaethol ymchwil Cymru sy’n dangos sut y gall ein prifysgolion, gan weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, hybu dilyniant economaidd. Wrth ystyried gweithio mewn part neriaeth, roedd 94% rhyfeddol o’r astudiaethau achos yn tanlinellu rôl partneriaethau allanol, o sefydliadau rhyngwladol i elusennau, a busnes au i lywodraeth, gan danlinellu natur gydgysylltiedig ymchwil.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r ymdrech sylweddol t uag at wella prosesau ac arferion, gydag 85% o’r astudiaethau achos yn nodi gwelliannau mewn sectorau allweddol, yn arbennig iechyd, addysg, a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ar ganfyddiadau’r adroddiad: “Mae’r dadansoddiad hwn yn tanlinellu rôl aruthrol prifysgolion Cymru o ran meithrin ymchwil ac arloesi ac ail lunio gwead cymdeithas. Nid yn unig y mae’n dang os ymrwymiad ac arbenigedd ein cymuned academaidd, ond mae hefyd yn adlewyrchu cred ddiysgog Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng ngrym trawsnewidiol gwybodaeth er budd Cymru a thu hwnt.

“Wrth i’r DU edrych ymlaen at gysylltiad llawn â rhaglen Horizon Europe,ryd ym yn obeithiol ynghylch y cyfleoedd cydweithredol cynyddol a’r potensial ar gyfer mwy fyth o gyfleoedd am d datblygiad cymdeithasol yn y dyfodol.”

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ailddatgan ei chenhadaeth i hyrwyddo rôl ymchwil mewn datrys heriau byd eang ac yn pwysleisio natur hirdymor ymchwil fel taith bwrpasol tuag at gael effaith yn y byd go iawn.