Cymdeithas Ddysgedig Cymru a CCAUC yn Cryfhau’r Ffocws ar Ragoriaeth Ymchwil yng Nghymru gyda Chytundeb Cyllido Newydd

Mae rôl hollbwysig ymchwil i helpu Cymru i ffynnu’n cael ei chydnabod mewn cytundeb newydd rhwng Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn rhoi partneriaeth a ddechreuodd yn 2021 ar sylfaen fwy hirdymor, gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru’n cael cyllid craidd parhaus, cynyddol. Bydd hyn yn helpu Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gyrraedd nodau strategol sy’n gyson â’r Weledigaeth Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Cymru gan CCAUC ac i gyflawni ei strategaeth bum mlynedd newydd, y mae’n ei lansio’n ffurfiol heddiw.

Mae’r cytundeb yn cryfhau rôl Cymdeithas Ddysgedig Cymru fel academi genedlaethol Cymru a’i gwaith i hybu rhagoriaeth ymchwil mewn addysg uwch yng Nghymru. Mae hefyd yn cryfhau capasiti Cymdeithas Ddysgedig Cymru i weithredu fel llais annibynnol, gan sicrhau bod ymchwil ac arloesi’n rhan o drafodaethau polisi.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ffurfioli ein perthynas â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n adeiladu ar y bartneriaeth a sefydlwyd i fwrw ymlaen ag argymhellion Adolygiad Diamond” meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC.

“Mae CCAUC a Chymdeithas Ddysgedig Cymru ill dau’n credu bod ymchwil ac arloesi o ansawdd da’n ganolog i ffyniant Cymru yn y dyfodol. Bydd y cytundeb hwn yn helpu Cymdeithas Ddysgedig Cymru i ehangu’r gwaith y mae’n ei wneud i gefnogi’r bobl sy’n cyflawni’r ymchwil ac arloesi hynny.

“Rydym wedi cydweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wneud y gwaith paratoadol cyn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn wedi arwain, er enghraifft, at Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sydd eisoes yn nodwedd bwysig ar dirwedd ymchwil Cymru.

“Mae strategaeth newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n addo llawer mwy o’r math yma o arloesi ac yn gyson â dyletswydd CCAUC i hybu diwylliant ymchwil deinamig yng Nghymru.

“Mae hyn hefyd yn gosod sylfaen ardderchog ar gyfer y berthynas yn y dyfodol rhwng Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd ar fin cael ei sefydlu ac y bydd ei gylch gwaith yn y dyfodol yn cynnwys cyllid a pholisi ym maes ymchwil ac arloesi.”

Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu’r meysydd y bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n mynd ar eu trywydd fel rhan o’i waith. Maent yn cynnwys mynd ati’n barhaus i hybu rhagoriaeth ymchwil, cydweithio gydag academïau partner ledled y DU a thrwy Gynghrair yr Academïau Celtaidd, a gwaith i roi cyngor annibynnol i wneuthurwyr polisi, megis cyfraniadau diweddar at bolisi arloesi, lledaeniad camwybodaeth a dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

“Mae hyn yn newyddion gwych,” meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. “Mae’n dangos hyder yn ein rôl a bydd yn ein galluogi i gynyddu ein heffaith trwy alluogi ystod ehangach o weithgarwch.

“Mae ein cyfres ddiweddar o fordydd crynion ac adroddiadau ar arloesi’n dangos sut y mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cyfrannu ei llais unigryw at drafodaethau polisi dybryd.

“Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd, y gwnaethom ei ffurfio gydag Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin, a’n gwaith gydag Academi Ifanc y DU, yn golygu bod llais ymchwilwyr Cymru’n cael ei glywed y tu hwnt i’n ffiniau.

“Mae ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn helpu i greu amgylchedd lle mae Cymru’n lle deniadol i fod yn ymchwilydd.

“Bydd y bartneriaeth hon gyda CCAUC yn ein galluogi i wneud cymaint yn fwy o’r gwaith yma, gan fod yn hyderus ynghylch gweledigaeth hirdymor, gyffredin.”

Cyhoeddwyd datganiad o amcanion a blaenoriaethau i gyd-fynd â’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth.