Mae’r Gymdeithas yn falch iawn o gefnogi cynhadledd y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol (SLSA)

Mae’n bleser gan Cymdeithas Ddysgedig Cymru gefnogi cynhadledd flynyddol tri diwrnod y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol, sy’n dechrau ar 30 Mawrth.

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ar-lein, ac yn cael ei threfnu gan dîm o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro John Harrington.

Mae’r rhaglen yn archwilio materion sy’n amrywio o gynhwysiant a chyfiawnder i hawliau iaith a datblygu cynaliadwy, i oblygiadau Covid-19 mewn perthynas â hawliau dynol.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys sesiwn ar ‘Derfysgoedd Hiliol’ Caerdydd ym 1919 a lansio arddangosfa ar-lein gydag Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru. Bydd yr Athro Daniel Williams FLSW, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn cymryd rhan mewn sesiwn ‘Dad-drefedigaethu Ysgol y Gyfraith – Gwersi o Fywyd a Gwaith Paul Robeson.’

Mae’r Gymdeithas wedi cefnogi’r gynhadledd gyda grant digwyddiadau o £1000.

Dywedodd Dr Sarah Morse, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus y Gymdeithas:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi ymweliad rhithwir yr SLSA â Chaerdydd. Rydym yn ddiolchgar ein bod ni wedi cael y cyfle i ariannu bwrsariaethau i alluogi cyfranogwyr o’r de byd-eang, yn ogystal ag ymchwilwyr yn y DU sy’n wynebu heriau ariannol o dan yr amgylchiadau presennol, i fynychu’r gynhadledd.”

Gallwch gadw lle yn y gynhadledd yma.