Mynnwch hyd at £1000 i roi hwb cynnar i’ch prosiect ymchwil

Mae Cynllun Grant Gweithdai Ymchwil llwyddiannus Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gael unwaith eto wrth i ni barhau i ddangos ein hymrwymiad i ymchwilwyr Cymru.

Mae pymtheg grant hyd at £1000 ar gael i gefnogi cynnal gweithdy a fydd yn dod ag ymchwilwyr ynghyd yn ystod camau cynnar cynllunio a datblygu prosiect ymchwil cydweithredol.

“Nod y grantiau yw creu partneriaeth rhwng ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau ac o ystod o sefydliadau,” meddai Cathy Stroemer, Rheolwr Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr y Gymdeithas. “Gallant ddod o fewn y byd academaidd neu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.”

Mae gwaith cydweithredol a rhyngddisgyblaethol wrth wraidd y cynllun. Rhaid i geisiadau hefyd ddod o dan un o’r tri maen prawf canlynol:

  • Astudiaethau Cymru
  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
  • Y Dyniaethau, Y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Mae manylion llawn y cynllun ar gael yma.