Medal Newydd i ddathlu ymchwil addysgol

Mae medal newydd  wedi ei henwi er anrhydedd i Syr Hugh Owen (1804-1881) yr addysgwr Cymreig, dyngarwr ac arloeswr addysg uwch yng Nghymru i gael ei sefydlu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC) yr hydref hwn.

Fel rhan o’i chenhadaeth i helpu cydnabod a dathlu ysgolheictod Cymraeg, mae CDdC yn bwriadu sefydlu gwobr fawreddog flynyddol ar ffurf medal sy’n cydnabod cyfraniadau sylweddol i ymchwil addysgol neu gymhwyso ymchwil i gynhyrchu arloesedd arwyddocaol mewn polisi addysg a/neu ymarfer addysgol proffesiynol yng Nghymru.

Bydd y fedal a gaiff ei dyfarnu i gydnabod cyfraniad eithriadol i ymchwil ym maes addysg, gan unigolyn sydd â chysylltiad â Chymru, yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Wrth groesawu sefydlu’r wobr newydd, dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau:

Mae yna weithgarwch ymchwil rhagorol yn digwydd mewn sefydliadau addysg ar draws Cymru ac mae llawer o bobl sydd â chysylltiad cryf â Chymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i genedlaethau o ddysgwyr y dyfodol drwy gymhwyso ymchwil i siapio polisïau addysg. Bydd y wobr hon yn cydnabod ac yn dathlu’r hyn sy’n dda am ymchwil addysgol yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at ddarganfod pwy yw derbynnydd cyntaf y wobr.

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Syr Emyr Jones Parry:

Mae addysg wastad wedi bod yn elfen hanfodol o fywyd Cymru. Mae annog ymchwil mewn addysg a’i gymhwysiad cadarnhaol yn cydnabod y rheidrwydd i ysbrydoli’r ddarpariaeth addysgol gorau yng Nghymru.

Mae’r Gymdeithas ar hyn o bryd yn dyfarnu dwy fedal: Medal Menelaus a noddir gan Sefydliad Ymddiriedolaeth Addysgol Peirianwyr De Cymru a gaiff ei dyfarnu am ragoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg neu ymchwil neu ymarfer diwydiannol, a’r fedal Frances Hoggan a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n cydnabod menywod mewn gwyddoniaeth, meddygaeth, peirianneg neu mathemateg. Yr haf hwn, bydd y Gymdeithas yn lansio Medalau Dillwyn a fydd yn cael eu dyfarnu yn flynyddol i gydnabod rhagoriaeth mewn ymchwil gyrfa gynnar.