Ein ffocws ar ecwiti

Ein cryfder yw ein Cymrodoriaeth a’i hamrywiaeth. Rydym yn rhoi’r flaenoriaeth i ecwiti a chynhwysiant ar draws pob un o’n meysydd gwaith – o’n proses i ethol Cymrodyr hyd at ymgysylltu â Chymrodyr a rhanddeiliaid yn ein gwaith polisi.

Rhyddhawyd ein datganiad diweddaraf ar EDI ym mis Medi 2024:

Yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, teimlwn yn angerddol dros ein huchelgais i gynrychioli amrywiaeth Cymru. Drwy gamau gweithredu amlwg, ein nod yw ymgorffori diwylliant o gynhwysiant ac ecwiti ym mhob agwedd ar ein gwaith.

Rydym wedi ymrwymo’n gryf i herio anghydraddoldeb systemig a phob math o wahaniaethu ac ymyleiddio, a byddwn yn parhau i weithio’n galed i amrywio ein Cymrodoriaeth a’n harferion. Rydym yn ymrwymo i ddathlu, ysbrydoli ac amlygu cyfoeth amrywiol ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, ac i weithio mewn partneriaeth â’n Cymrodyr a’r cymunedau yr ydym yn perthyn iddynt.

Rydym wedi ymroi’n fwriadol i hyrwyddo ein huchelgeisiau o ran Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), ond yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud. Dyma pam ein bod yn parhau i herio ein ffyrdd o feddwl, i weithredu ar sail yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a diweddaru ein hymrwymiadau. Mae hyn wedi’i gyfleu yn ein Cynllun Gweithredu EDI sy’n esbonio’r newidiadau a’r gwelliannau y byddwn yn eu cyflwyno i bob agwedd ar ein sefydliad. Arweinir hyn gan y cytundeb i newid ein ffocws o ‘gydraddoldeb’ i ‘ecwiti’ – sy’n tynnu sylw at ein hymrwymiad i’r ymyrraeth fwy gweithredol sy’n gysylltiedig ag ecwiti.

Yn gryno, mae’r cynllun gweithredu yn ymrwymo i 10 maes ffocws eang:

  • Bod yn sefydliad gweladwy gynhwysol yn fewnol ac yn allanol – a adwaenir fel esiampl am ei waith EDI. Mae hyn yn cynnwys meithrin ein perthynas â grwpiau cynghrair a grwpiau cymorth a siarad am ein huchelgais a’n cynnydd yn y maes hwn.
  • Ymgorffori EDI ar draws y sefydliad a chynyddu cynhwysiant o fewn ein dull o weithredu. Mae hyn yn cynnwys gwella casgliadau data i’n helpu i nodi cryfderau a bylchau yn ein Cymrodoriaeth, a chanfod ffyrdd i asesu effaith ein penderfyniadau ar ecwiti.
  • Adolygu proses ethol Cymrodyr y Gymdeithas yn barhaus, er mwyn i’r broses honno fod yn gynhwysol ac ecwitïol. Mae hyn yn cynnwys mynd ati mewn modd rhagweithiol i annog a chefnogi enwebiadau mwy amrywiol ac archwilio ein proses ethol i gael gwared ag unrhyw rwystrau diarwybod i enwebiadau.
  • Sicrhau bod y broses o reoli a recriwtio staff yn gynhwysol ac ecwitïol.
  • Rheoli ymglymiad Cymrodyr â llywodraethu a datblygu, er mwyn sicrhau cynhwysiant ac amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys y modd y byddwn yn creu ac yn rhannu cyfleoedd, a’n dull o gynnal ein cyfarfodydd.
  • Ystyried sut y gallai rhwystrau ariannol i fynediad amharu ar gyfranogiad ym musnes y Gymdeithas, a sut y gellid osgoi’r rhwystrau hynny.
  • Datblygu gweithgareddau’r Gymdeithas i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb – o leoliad a fformat y gweithgareddau hyd at y bobl sy’n cael gwahoddiad i siarad.
  • Sicrhau bod gweithgareddau a gefnogir gan y Gymdeithas yn cyrraedd yr un safonau â ddelir ar gyfer ei gweithgareddau ei hun.
  • Datblygu dulliau cyfathrebu i fod yn hygyrch ac yn gynhwysol – gan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael a chyflwyno hyfforddiant lle bo angen.
  • Ymgorffori gofynion mewn grantiau a ddyfernir gan y Gymdeithas sy’n cyfrannu at ein huchelgeisiau o ran EDI – monitro’r cynnydd i asesu hyn.

Ein hegwyddorion

  • Ecwiti yw ein blaenoriaeth wrth sicrhau triniaeth deg a chyfartal i bawb
  • Diwylliant gweladwy ac yn gynhenid yn gynhwysol, lle bydd pawb yn cael croeso ac yn gallu bod yn nhw’u hunain.
  • Dim goddefgarwch o wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth nac ymddygiad annymunol.
  • Cymrodoriaeth sy’n ymdrechu i gynrychioli amrywiaeth Cymru
  • Rhannu ein harferion da ag eraill, a dysgu ganddynt yn gyson.

Ein 3 thema:

  • Creu diwylliant cynhwysol/ecwitïol i weithio ynddo a bod yn Gymrawd
  • Ymgysylltu/Cysylltu â’n rhanddeiliaid
  • Hyrwyddo a chefnogi gwaith EDI yng nghyd-destun ymchwil Cymru

yn ôl i'r brig