Medal Frances Hoggan 2021

Yr Athro Dianne Edwards CBE FLSW, Athro Ymchwil Nodedig mewn Paleobotaneg, Prifysgol Caerdydd, yw enillydd Medal Frances Hoggan 2021.

Mae’r Athro Dianne Edwards yn derbyn ein Medal Frances Hoggan, 2021, am ei hymchwil i rywogaethau planhigion, sy’n cynnwys y rheiny oedd yn bodoli mwy na 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Mae’r Athro Edwards yn arbenigo mewn hanes planhigion tir ar y Ddaear, ac mae ei hymchwil yn dangos mewnwelediad i’r broses esblygol lle cytrefwyd y tir gan blanhigion.  Mae ei gwaith ar gofnodion ffosil wedi arwain at adnabod rhywfaint o rywogaethau planhigion tir oedd yn bodoli mwy na 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae hi’n gyfrifol am enwi llawer o rywogaethau a genera.

Darllenwch fwy am waith yr Athro Edwards.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Professor Edwards:

“Dros y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wedi cael y fraint o dderbyn cefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd a gan amrywiaeth o gyllidwyr, i ddilyn fy niddordebau mewn hanes planhigion ar y Ddaear.

“Dwi wedi cael fy nghalonogi gan y wobr hon, ac rwy’n obeithiol y bydd ymchwil o’r fath, a elwir heddiw yn wyddoniaeth darganfod, yn parhau i fod yn bosibl i wyddonwyr ifanc i’w galluogi i fwynhau ei bleserau.”