Medal Hugh Owen 2021

Mae’r Athro EJ Renold yn derbyn ein Medal Hugh Owen 2021, am ei ymchwil addysgol rhagorol i addysg rhyw a rhywioldeb.

Mae’r Athro Renold, sydd wedi derbyn medal Hugh Owen am ymchwil addysgol rhagorol yng Nghymru, yn gweithio ar addysg rhyw a rhywioldeb.

Mae hyn wedi helpu plant a phobl ifanc i siarad am eu profiadau, o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd i LGBTQ+, cydraddoldeb a hawliau ieuenctid.

Mae’r Athro Renold wedi chwarae rhan bwysig mewn datblygu cwricwlwm Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb statudol newydd ar gyfer Cymru

Darllenwch fwy am waith yr Athro Renold.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Professor Renold:

“Mae’r wobr hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn arbennig o ingol, oherwydd yr etifeddiaeth y bydd yn ei gadael i genedlaethau o ymchwilwyr addysg ffeministaidd yn y dyfodol o’r hyn sydd yn gallu bod yn bosibl pan fydd cyd-gynhyrchu a chydweithio yn digwydd dros amser.”