Gwasanaeth Coffa yr Athro John Wyn Owen – Gwahoddiad

Mae aelodau o deulu a ffrindiau John Wyn Owen wedi trefnu gwasanaeth coffa iddo ar 15 Tachwedd 2022. Bydd hyn yn cael ei gynnal, diolch i Ymddiriedolaeth Guys a St. Thomas, yn Neuadd y Llywodraethwyr yn Ysbyty St Thomas, lle’r oedd Syr John yn Weinyddwr Dosbarth ar ddiwedd y 1970au.

Bydd The River Cafe yn darparu lluniaeth yn gynnar gyda’r nos i’r rheini a hoffai aros ar ôl am sgwrs gyda’i gilydd. Os byddai gennych ddiddordeb mewn mynychu, byddai’r teulu wrth eu boddau’n clywed gennych. Cysylltwch â, Jac, cynorthwyydd personol ffrind Syr John, Pam Garside, a chadwch y dyddiad yn eich dyddiadur.