Medal Hugh Owen 2020

Yr Athro Sally Power, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), yw enillydd Medal Hugh Owen 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ei hymchwil addysgol rhagorol.

Mae’r Athro Power yn ymchwilydd addysg blaenllaw, gyda ffocws eang ar bolisi ac anghydraddoldeb.

Mae’n chwarae rôl bwysig yn cefnogi ymchwil addysgol ar draws Cymru. Mae Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD, dan gyfarwyddyd Power er 2012, yn fodd arloesol o gasglu profiadau a chanfyddiadau pobl ifanc ac yn cynnig labordy unigryw ar gyfer ymchwil addysg yng Nghymru.

Mae’n rhannu’r canfyddiadau mewn amrywiol ffyrdd hygyrch i fyfyrwyr ysgol, yn yr Eisteddfod ac i athrawon. Mae’r pecynnau arloesol o gardiau post â ffeithluniau wedi’u hyrwyddo gan ESRC fel enghraifft o ledaenu hygyrch.

Mae’r Athro Power yn siarad yn rheolaidd ar y llwyfan byd-eang ac yn aelod o nifer o baneli yn y DU a thramor. Mae wedi bod yn rhan o gynigion llwyddiannus am dros £10 miliwn o ddyfarniadau grant a bydd yn cyhoeddi dwy gyfrol eleni gyda Policy Press.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Power:

“Rwy’n ei theimlo’n anrhydedd mawr cael derbyn y Fedal hon. Rwyf i wedi bod yn lwcus iawn i gael cydweithwyr gwych dros y blynyddoedd, ac rwyf i’n ddiolchgar iawn i’r holl sefydliadau ac unigolion hynny sydd wedi cyllido a chyfranogi yn fy ymchwil.

“Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am gynnig llwyfan i arddangos ymchwil addysg. Mae datblygu cymuned ymchwil gynaliadwy a bywiog yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru.”