Dr Helen Ougham: mae ‘ymddeol’ yn golygu cyfle gwych i wneud rhagor o waith

I nodi cyhoeddi ein carfan o Gymrodyr yn 2019, yn gynharach eleni gwahoddom ni rai o’r rhai a etholwyd i fyfyrio ar eu gyrfaoedd hyd yma.

Ceir manylion un o’r Cymrodyr hynny isod.

I rai pobl, mae ‘ymddeol’ yn golygu cyfle gwych i wneud rhagor o waith. Er ei bod wedi ymddeol mewn enw, dyw Dr Helen Ougham ddim wedi arafu. Yn wir, mae Dr Ougham yn dal i fod yn ymchwilydd ac addysgwr gweithredol, ac yn parhau i ysgrifennu, golygu ac adolygu cyhoeddiadau gwyddonol.

A hithau’n arbenigo yn nhwf a datblygiad planhigion, gyda phwyslais penodol ar heneiddiad dail, mae gan Dr Ougham dros 25 mlynedd o brofiad ymchwil mewn gwyddor planhigion a biowybodeg cnydau yn Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd ac ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy gydol ei gyrfa, bu Dr Ougham yn addysgu’n rheolaidd ar gyrsiau i raddedigion mewn geneteg a genomeg ym Mhrifysgol Birmingham ac mewn gwyddor cnydau yn yr Instituto Agronómico Mediterráneo de Zaragoza. Roedd Dr Ougham hefyd yn aelod o Bwyllgor Genynnau a Bioleg Ddatblygiadol y BBSRC ynghyd â’i Banel Strategaeth Offer ac Adnoddau.

A hithau bellach wedi ‘ymddeol’, mae Dr Ougham yn addysgu ar fodiwl i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n gyd-olygydd New Phytologist, ac yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn East Malling Research. Mae hefyd yn gwirfoddoli gyda Phrosiect Gweilch Dyfi yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi. Ym mhrosiect Gweilch Dyfi, mae Dr Ougham yn gweithio fel rhan o’r tîm diogelu sy’n gofalu am y gweilch wrth iddynt ddeor eu hwyau. Mae hefyd yn siarad ac yn ateb cwestiynau ymwelwyr (“os gallaf i!” mae’n ychwanegu) yn y warchodfa, mae’n ysgrifennu cyfres o flogiau ar wefan Prosiect Gweilch Dyfi ac yn ymwneud ag ymchwil geneteg gweilch gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Ougham bob amser wedi ymrwymo i gyfathrebu gwyddoniaeth i bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae hi’n dal i ymgysylltu â’r cyhoedd gyda’r gwyddorau drwy ei rôl yn drefnydd Caffi Gwyddoniaeth Aberystwyth, a lansiwyd yn 2005. Mae’r caffi’n fforwm am ddim i bobl sgwrsio am y syniadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth, ac o’r dechrau, mae Dr Ougham wedi ymwneud yn weithredol gyda’i drefniadau a’i lwyddiant.

Ar ôl symud i Gymru yn 1977 i astudio am PhD, mae Dr Ougham bellach yn Ddarllenydd Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth, a gyda chefndir mewn geneteg, biocemeg a chyfrifiadura, mae wedi cyfrannu’n helaeth i wyddoniaeth yng Nghymru yn ystod dros ei 40 mlynedd yma. Fel oedolyn mae hefyd wedi dysgu Cymraeg (un o’r cyflawniadau mae’n fwyaf balch ohono – ynghyd â bod yr unig fenyw i ennill Pencampwriaeth Croesair (cryptig) y Times) ac mae wedi darlithio yn Gymraeg.

Pan ofynnwyd iddi beth yr hoffai ei weld yn dod allan o’r byd dysg yng Nghymru, dywedodd Dr Ougham: “Hoffwn weld Cymru’n arwain wrth fynd i’r afael â’r problemau mawr sy’n wynebu’r byd – newid yn yr hinsawdd, llygredd, colli bioamrywiaeth, bwydo poblogaeth y blaned, ymdrin â’r bom sy’n ticio dan ymwrthedd gwrthfiotigau… Nid gwaith i wyddonwyr yn unig yw hyn; bydd gan haneswyr, llenorion, darlledwyr a llawer o bobl eraill ym myd dysg rannau i’w chwarae.”

Mae Dr Ougham wedi dweud ei bod yn “anrhydedd i gael cydnabyddiaeth fel cyfrannwr i dirwedd wyddonol a diwylliannol Cymru”. Rydym ni wrth ein bodd yn croesawu Dr Ougham i’n Cymrodoriaeth, i gydnabod y cyfraniadau hyn i’r byd academaidd ac ymchwil yng Nghymru.

Y blog nesaf yn y gyfres.