Mrs Sally Roberts Jones: cariad at lyfrau

I nodi cyhoeddi ein carfan o Gymrodyr yn 2019, yn gynharach eleni gwahoddom ni rai o’r rhai a etholwyd i fyfyrio ar eu gyrfaoedd hyd yma.

Ceir manylion un o’r Cymrodyr hynny isod.

Sally Roberts Jones being admitted by Sir Emyr Jones ParryMae Sally Roberts Jones yn fardd, bywgraffydd, beirniad, hanesydd a llyfryddwr. Mor bell yn ôl ag y gall gofio, mae “wastad wedi ysgrifennu straeon, cerddi a dramâu bach”. Fe’i ganwyd yn Llundain, ond Cymro oedd ei thad, ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i bywyd yng Nghymru, yn y gogledd i ddechrau, lle’r astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn dilyn hyn, astudiodd lyfrgellyddiaeth yn y North Western Polytechnic yn Llundain ond dychwelodd i Gymru yn 1967 yn Llyfrgellydd Cyfeiriol ym Mhort Talbot, lle mae’n dal i fyw. Mae’n cofio bod “cariad at lyfrau ac, ar y dechrau, rhywfaint o swildod oedd yn golygu y byddai gyrfa fel athro’n annhebygol, wedi fy arwain at lyfrgellyddiaeth.”

Yn Llundain, roedd Mrs Roberts Jones yn aelod sylfaen o Urdd Awduron Cymru, ac yn 1968 fe’i recriwtiwyd gan Meic Stephens yn Ysgrifennydd/Trysorydd gyntaf Adran Iaith Saesneg yr Academi Gymreig, swydd y bu ynddi tan 1975. Parhaodd yn aelod o Bwyllgor Gwaith yr Adran tan 1993, pan ddaeth yn Gadeirydd am y pum mlynedd nesaf. Mae hefyd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Port Talbot ers 1982 a hi yw’r Cadeirydd ar hyn o bryd.

Yn 1999 roedd yn un o’r saith awdur a arloesodd gyda chynllun Cymrodyr Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol a thros y deng mlynedd ddilynol, roedd yn seiliedig ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2002 dyfarnwyd iddi Bensiwn y Rhestr Sifil am wasanaethau i Lenyddiaeth. Rhwng 2002 a 2004, Mrs Roberts Jones oedd Ysgrifennydd Cymdeithas Owain Glyndŵr, ac mae’n parhau’n aelod hyd heddiw.

Datblygodd ddiddordeb mewn llên Saesneg o Gymru yn yr ysgol ac mae wedi ymchwilio’n helaeth yn y maes. Mae nawr yn aelod o Gymdeithas Llên Saesneg Cymru ac wedi cyfrannu yn ei chynadleddau ac i’w Chyfnodolyn. Mae ganddi hefyd ddiddordeb ers tro yn hanes Cymru, y chwedl Arthuraidd a llenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae Mrs. Roberts Jones wedi ysgrifennu ar hanes lleol a diwydiannol sir Forgannwg ac mae wrthi’n ysgrifennu bywgraffiad o’r arwr llafur a’r merthyr, Dic Penderyn.

Ar ôl 1971 daeth Mrs. Roberts Jones yn llenor a darlithydd llawrydd, gan redeg gweithdai a chyrsiau i sefydliadau yn cynnwys Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Adrannau Astudiaethau Allanol Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, a Choleg y Drindod Caerfyrddin (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bellach). Gan sôn am ei gwaith presennol dywed: “Mae llawer o’r hyn rwy’n ei wneud heddiw yn y gymuned leol, a hoffwn feddwl y gallaf rannu’r hyn rwyf i wedi’i ddarganfod dros y blynyddoedd gyda phobl eraill na fyddent fel arall yn clywed amdano. Hefyd mae bod yn ddarlithydd wedi golygu bod fy niddordebau’n tueddu i estyn i fannau annisgwyl a gwneud cysylltiadau newydd.”

Sally talking with friends at the annual Fellows DinnerMae wedi cyflwyno darlleniadau yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon a hyd yn oed Yugoslavia. Yn 1977 sefydlodd hi a’i gŵr wasg fach, Alun Books, ac yn 1997 roedd yn un o olygyddion sylfaen y cylchgrawn barddoniaeth Roundyhouse. Mae hefyd wedi cyfrannu at yr Oxford Companion to the Literature of Wales, Y Bywgraffiadur Cymreig a The New Dictionary of National Biography. Mae wedi cyhoeddi pum cyfrol o farddoniaeth, hanes lleol a bywgraffiadau, astudiaethau beirniadol a dramâu mydryddol a straeon i blant ar gyfer y radio.

Wrth ymuno â’r Gymdeithas, dywedodd Mrs. Roberts Jones: “cael fy ethol yn Gymrawd yw’r cyflawniad rwy’n fwyaf balch ohono hyd yma, gan ei fod yn dilysu fy ngwaith. Ond hefyd mae’n golygu bod cymaint mwy yn bosibl.” Ei gobaith yw cyfrannu at nodau’r Gymdeithas Ddysgedig, yn enwedig y prosiect Astudiaethau Cymreig, a “gweithredu fel dolen rhwng grwpiau neu unigolion na fyddent efallai’n cyfarfod fel arall” gan fod “dod â phobl a gwybodaeth at ei gilydd yn hanfodol.”

Blogiau blaenorol yn y gyfres.

Y blog nesaf yn y gyfres.