Rôl allweddol i LSW wrth i Gymru ac Iwerddon gryfhau cysylltiadau

Bydd yr Athro Enlli Thomas FLSW, un o’n Cymrodorion, yn cynrychioli’r LSW yn y sesiwn ‘Agile Cymru’ o’r Fforwm Gweinidogol Iwerddon-Cymru ym Mangor ar 20 Hydref.

Bydd gweinidogion o Iwerddon a Chymru yn cwrdd â rhanddeiliaid sy’n cydweithio ar y rhaglen Agile Cymru a’r Fframwaith Môr Iwerddon. Mae Agile Cymru yn ‘ceisio darparu cydweithrediad traws-ffiniol a rhyngwladol ar draws diddordebau a rennir’, tra bod y Fframwaith yn ‘fframwaith anffurfiol i wella cydweithrediad economaidd ar draws rhanbarth Môr Iwerddon’. Y bwriad yw i weinidogion fagu ymdeimlad o’r bartneriaeth rhwng partneriaid o Gymru ac Iwerddon, ei heffaith ar fywyd gwirioneddol a’i pherthnasedd i flaenoriaethau polisi.

Bydd yr Athro Thomas yn cyflwyno’r elfen ‘iaith’ o Agile Cymru ynghyd ag Aran Jones, Prif Swyddog Gweithredol y cwrs dysgu cyfrwng Cymraeg Dywedwch rywbeth yn Gymraeg.

Mae perthynas Cymdeithas Ddysgedig Cymru ag Agile Cymru wedi hen sefydlu. Ar hyn o bryd rydym yn trefnu’r Cynllun Grant Agile Cymru. Bydd y cynllun yn cynnig hyd at £12,500 i brosiect ymchwil Cymru-Iwerddon sy’n archwilio materion yn ymwneud ag iaith, diwylliant a threftadaeth gan ganolbwyntio’n benodol ar ieithoedd cynhenid a lleiafrifol a rhai nad ydynt yn cael gymaint o ddefnydd. Cyhoeddir yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y grant hwnnw yn fuan.

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mor agos gyda’r ymdrechion i ddatblygu’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon ar bob lefel,” meddai’r Athro Helen Fulton, Is-Lywydd LSW. “Mae gwaith ein Cymrodorion a’r gallu sydd gennym i hyrwyddo a chynnal y Cynllun Grant Agile Cymru, yn ogystal â’n haelodaeth o’r Cynghrair Academïau Celtaidd oll yn dangos mor ymrwymedig yr ydym ni i’r perthnasau allweddol hyn.”