Academïau Cenedlaethol yr Alban, Cymru ac ynys Iwerddon yn ymuno i lansio Cynghrair yr Academïau Celtaidd

Heddiw, mae Cymdeithas Frenhinol Caeredin (RSE), Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) ac Academi Frenhinol Iwerddon (RIA) wedi lansio Cynghrair yr Academïau Celtaidd.

Nodau’r Gynghrair yw:  

  • Sicrhau bod cyngor arbenigol annibynnol ar gael ar faterion addysg uwch ac ymchwil ac ar faterion allweddol eraill cyffredin; 
  • Cefnogi esblygiad llywodraethu mwy effeithiol o fewn y DU a rhwng y DU ac Iwerddon, yn enwedig yng nghyd-destun ôl-Brexit; a 
  • Gweithio i sicrhau bod Llywodraeth y DU a’i chyrff yn rhoi ystyriaeth briodol i anghenion a sefyllfaoedd gwahanol y gwledydd datganoledig, gan gefnogi cyfathrebu a chydweithredu rhwng y gwahanol lefelau o lywodraeth. 

Bydd y Gynghrair yn galluogi’r RSE, LSW a’r RIA i gyfuno’r arbenigedd eang a’r profiad ymarferwyr sy’n bodoli o fewn eu haelodaeth i lywio datblygiadau polisi cyhoeddus ar lefel y DU ac o fewn y gwledydd datganoledig.  

Daw sefydlu’r Gynghrair ar adeg dyngedfennol wrth i’r sectorau addysg uwch ac ymchwil ddelio â heriau mawr Covid-19 a Brexit. Mae hefyd yn cynnig cyfle arwyddocaol gyda Llywodraeth y DU o ran datblygu strategaeth ymchwil a datblygu newydd ar gyfer y DU, gan gynnwys ymrwymiadau i ‘wella’ buddsoddiad ledled y DU a gyda chynlluniau’n dod i’r amlwg ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. 

Dywedodd yr Athro Fonesig Anne Glover, Llywydd RSE: “Mae sefydlu Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn ddatblygiad arwyddocaol. Mae ein hacademïau cenedlaethol mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar ein harbenigedd, ein profiad a’n rhwydweithiau helaeth ac amlddisgyblaethol i helpu i lywio a llunio datblygiadau polisi ar bob lefel o lywodraeth. Mae’n hanfodol bod llunio polisïau ar lefel y DU yn ystyried blaenoriaethau ac anghenion unigryw’r gwledydd datganoledig a gall y Gynghrair chwarae ei rhan i gefnogi’r broses hon.” 

Dywedodd Dr Mary Canning, Llywydd yr RIA: “Un o gryfderau mawr y tair academi yw eu bod yn rhychwantu’r ystod lawn o ddisgyblaethau academaidd o fewn eu priod gymrodoriaethau. Mae hyn ynghyd â’u hannibyniaeth a’u pŵer cynnull yn eu gwneud yn amhrisiadwy wrth ddadansoddi’r materion cymhleth niferus sy’n sail i ddatblygiad gwyddonol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ac yn treiddio i’r rhain. Bydd Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer cydweithrediadau academaidd ac ymchwil gwell a synergaidd rhwng y cenhedloedd er budd pawb” 

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd LSW: “Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn gyfle i ddatblygu ac ymhelaethu ymhellach ar leisiau cymunedau ymchwil ac arloesi’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddeall yr hyn sydd ei angen i feithrin gallu, cynhyrchiant ac effaith ymchwil yn y gwledydd datganoledig, gan gydnabod amrywiadau rhanbarthol o fewn y gwledydd eu hunain. Rydym yn gobeithio cyfrannu’n adeiladol at y trafodaethau ynghylch lefelu cyllid ymchwil, datblygu ac arloesi.” 

Gweithgareddau Cynghrair yr Academïau Celtaidd 2020–2021