Rydym yn cyflogi: Swyddog Rhaglen – Datblygu Ymchwilwyr

Rydym yn chwilio am Swyddog Rhaglen rhagweithiol a phroffesiynol i gefnogi cam nesaf ein rhaglen Datblygu Ymchwilwyr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Rhaglen, ac yn cefnogi cyflawni un o’r pedair blaenoriaeth yn ein strategaeth pum mlynedd newydd, sef: “creu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr Cymru yn y presennol a’r dyfodol’. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gael effaith go iawn ar ddyfodol addysg uwch ac ymchwil yng Nghymru. Wedi cael cyllid ychwanegol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i gefnogi ein strategaeth newydd, byddai’r rôl hon yn addas i rywun â’r ymreolaeth i lywio a thyfu un o’n rhaglenni mawr, ac i rywun sy’n mwynhau gweithio’n hyblyg gydag un tîm deinamig a chynorthwyol. 

Rydym yn bwriadu cyflogi rhywun yn barhaol ac ar sail amser llawn. Mae gennym nifer o wahanol ffyrdd y mae ein staff yn gweithio’n hyblyg y byddem yn hapus i’w trafod gyda chi. 

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cefnogi dysgwyr Cymraeg gweithredol ar bob lefel. Nid yw rhuglder yn y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, ac mae parodrwydd i ddysgu yn hanfodol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydy hanner nos, 20 Ionawr 2024.

Mae cyfweliadau wedi’u trefnu i gael eu cynnal rhwng 9am a 5pm ar Dydd Iau 1 Chwefror.

Os hoffech ragor o wybodaeth cyn penderfynu gwneud cais, cysylltwch â Dr Barbara Ibinarriaga Soltero  (applications@lsw.wales.ac.uk) i drefnu trafodaeth anffurfiol gyda’r Rheolwr Rhaglen.