Cymrodyr Newydd y Gymdeithas yn Dangos Cryfder Bywyd Academaidd a Deallusol Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi croesawu 45 o academyddion, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol newydd i’w Chymrodoriaeth. Mae’r Cymrodyr newydd yn dangos rhagoriaeth barhaus ymchwil, prifysgolion a bywyd deallusol Cymru, sydd i gyd wedi rhagori yn ystod digwyddiadau eithriadol y flwyddyn hon, sydd wedi cael ei heffeithio gan y pandemig.

Mae’r Cymrodyr newydd yn cynnwys academyddion o sefydliadau addysg uwch Cymru, y DU a thramor, yn ogystal ag unigolion sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae eu harbenigeddau’n amrywio o nanotechnoleg i jazz, hanes seneddol i fioleg tiwmorau, a llawer yn y canol.

Gellir lawrlwytho rhestr gyflawn o’r Cymrodyr newydd, sy’n rhestru eu sefydliadau a’u harbenigedd pwnc, yma.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas, am yr aelodau newydd:

“Mae’n bleser gennyf groesawu ein Cymrodyr newydd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r flwyddyn ddiwethaf ryfeddol hon wedi dangos gwerth ymchwil o’r radd flaenaf. Mae galw mawr am wybodaeth ac arbenigedd, ym mhob maes, wrth i ni geisio adfer o heriau’r pandemig. Mae ein Cymrodyr ar flaen y gad o ran y wybodaeth a’r arbenigedd hwnnw.”

“Rydym wedi ethol canran uwch o Gymrodyr benywaidd nag erioed o’r blaen hefyd – 38%. Mae angen i ni wneud mwy, ond rwyf yn falch hefyd ein bod ni’n gwneud cynnydd mewn perthynas â’n hymdrechion i wneud i’r Gymdeithas adlewyrchu amrywiaeth bywyd yng Nghymru yn well.”

Mae’r Gymdeithas wedi derbyn dau Gymrawd Anrhydeddus newydd hefyd, sef yr Athro Hazel Carby a’r Athro Syr Michael Berry.

Mae’r Athro Carby yn Athro Emeritws Astudiaethau Affricanaidd Americanaidd ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Iâl. Mae hi’n arloeswr ym meysydd ffeministiaeth ddu ac fel ysgolhaig blaenllaw mewn llenyddiaeth a diwylliant diasporig du.

Mae’r Athro Syr Michael Berry, Athro Ffiseg (Emeritws) Melville Wills ym Mhrifysgol Bryste, yn un o ffisegwyr damcaniaethol mwyaf blaenllaw y byd. Mae wedi gwneud cyfraniadau mawr i ffiseg fathemategol o fewn y parthau clasurol a chwantwm, ac wrth eu rhyngwyneb.

Dywedodd yr Athro Thomas:

“Mae ein dau Gymrawd Anrhydeddus newydd yn dod â bri pellach i’r Gymdeithas. Maen nhw’n cynrychioli’r ysgolheictod gorau yn y gwyddorau a’r dyniaethau. Mae eu mewnwelediadau, o natur sylfaenol ein bydysawd i’r her o lunio cymdeithas gyfiawn, gynhwysol a dynol, yn allweddol i werthoedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.”

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Bellach mae gan Gymrodoriaeth y Gymdeithas 595 o aelodau. Mae eu harbenigedd cyfunol yn galluogi’r Gymdeithas i gryfhau ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru, drwy ei chyfraniadau o ran datblygu polisi, cynnal darlithoedd a seminarau cyhoeddus a’i rhaglen Astudiaethau Cymreig sy’n ehangu.

Caiff y Cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir, ar 19 Mai.