Swydd wag: Swyddog Cyfathrebu
- Cyflog cychwynnol: £22,417 pro rata (gwir gyflog £13,450)
- 21 awr yr wythnos (3 diwrnod)
- Swydd tymor penodol am 2 flynedd
Swydd y Swyddog Cyfathrebu yw sicrhau bod y Gymdeithas yn cyrraedd ei holl gynulleidfaoedd yn effeithiol. Craidd y swydd yw ein Cymrodoriaeth – cryfhau’r ffordd rydym ni’n cyfathrebu eu cyflawniadau, a’i gwneud yn haws iddyn nhw ymgysylltu’n effeithiol gyda’r Gymdeithas.
Bydd y Swyddog yn sicrhau bod holl waith y Gymdeithas – gan gynnwys ein digwyddiadau, gwaith polisi a medalau cyflawniad – yn cyrraedd cynulleidfa ehangach nag erioed. Bydd hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid yn y sector addysg uwch i hyrwyddo ein gweithgareddau mewn prifysgolion, a sicrhau ymgysylltu cryf gyda’n rhaglen newydd ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.
Bydd y Swyddog yn gyfrifol am nifer o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys gwefan y Gymdeithas, cyfryngau cymdeithasol, bwletin y Cymrodyr a rhestrau postio. Bydd yn datblygu ein presenoldeb yn wasg ac yn helpu i sicrhau presenoldeb cryf mewn digwyddiadau allanol perthnasol.
Lleoliad gwaith y Swyddog fydd swyddfa’r Gymdeithas ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Dyddiad cau: 12.00pm, 27 Tachwedd 2019
Mwy o wybodaeth: