Datgloi ymreolaeth ariannol: Adroddiad Cynghrair Academïau Celtaidd

Mae’r Gynghrair Academïau Celtaidd, y mae’r LSW yn aelod ohoni, wedi defnyddio ei phwerau ymgynnull i ddwyn ynghyd panel o arbenigwyr a chynrychiolwyr o’r cenedlaethau datganoledig i lunio adroddiad sy’n mynd i’r afael â materion treth a datganoli.

Mae’r adroddiad, Datgloi ymreolaeth ariannol: Datblygiad trethu datganoledig, wedi codi o gynhadledd ar drethu a gynhaliwyd gan y Gynghrair Academïau Celtaidd ym mis Tachwedd 2022 a thrafodaeth bellach, gyda chyfraniad gan yr Athro Gerald Holtham FLSW. Mae’n archwilio’r pwerau trethu sydd ar gael i weinyddiaethau datganoledig y DU a sut caiff y pwerau hynny eu defnyddio.

Mae archwiliad eang yr adroddiad o’r thema’n nodi, o safbwynt Cymru, bod incwm a threthi yng Nghymru’n annhebygol o gynhyrchu’r un canlyniad â chenedlaethau datganoledig eraill. Yn gyffredinol, death yr adroddiad i gasgliad bod ‘pob un o’r tair gweinyddiaeth yn parhau i ddibynnu ar grant bloc (‘cyllid canlyniadol Barnett’) i ariannu rhan o’r gwasanaethau maent yn eu rhedeg. Mae addasiadau grant bloc yn hynod dechnegol ac yn ddadleuol.’

“Dyma adroddiad diddorol a defnyddiol,” meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr LSW. “Rwy’n arbennig o falch bod y CAA yn parhau i gyflawni o ran cyfraniadau polisi, yn cynnig safbwynt pwysig y cenedlaethau datganoledig i drafodaethau polisi.”

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.


Mae’r dystiolaeth isod yn adlewyrchu sgwrs a safbwyntiau mynychwyr y drafodaeth.