Un ar hugain o enwebiadau am fedalau yn dod i law
We’re delighted to have received twenty-one nominations for our medals. This is the largest number we’ve had in any one year.
Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi derbyn un ar hugain o enwebiadau am ein medalau. Dyma’r nifer mwyaf i ni ei dderbyn mewn unrhyw flwyddyn.
Diolch i’r holl Gymrodyr a gyflwynodd enwebiadau ac a helpodd i hyrwyddo’r broses.
Y camau nesaf:
Caiff yr enwebiadau eu hanfon at aelodau’r Pwyllgorau Medalau perthnasol. Nid yw’r pwyllgorau hyn yn cyfarfod wyneb yn wyneb (hyd yn oed mewn blynyddoedd pan nad oes pandemig) ond yn gwneud eu penderfyniad drwy ohebiaeth.
Dylid penderfynu ar yr enillwyr terfynol erbyn 15 Ebrill.
Bydd yr enillwyr yn derbyn eu medalau yn ein cinio blynyddol, sydd wedi’i ohirio o 20 Mai i ddyddiad anhysbys hyd yma, yn sgil Covid-19.