Crynodeb Ymchwil Cymru: Iaith, Llenyddiaeth a’r Celfyddydau Creadigol a Pherfformio – Chwefror 2022

Rydym yn edrych ar rywfaint o’r ymchwil sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf gan yr adrannau  iaith, llenyddiaeth a’r celfyddydau creadigol a pherfformio ym mhrifysgolion Cymru.

Bydd y project yn parhau am ddeuddeg mis a’r nod cyffredinol yw ennyn gwell dealltwriaeth o ymddygiad cyfredol lle mae gwisgo masgiau wyneb yn y cwestiwn a dylanwad y cyfryngau ar hynny er mwyn cynyddu’r nifer sy’n eu gwisgo a gwella effeithiolrwydd ymgyrchoedd ar y cyfryngau at y dyfodol, gan ystyried materion amgylcheddol yn benodol. 

Tîm Bangor yn Ennill Grant Covid-19 Sylweddol | Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas | Prifysgol Bangor

Mae’r prosiect yn rhoi lle i stribedi comig arbrofol sy’n archwilio profiadau gofal, o safbwynt y gofalwr a’r person sy’n derbyn y gofal.

Comics am ofal

“Er bod llawer o farddoniaeth sy’n gysylltiedig â Myrddin wedi goroesi mewn llawysgrifau, mae llawer ohoni yn anhygyrch – heb ei golygu a hefyd heb ei chyfieithu. Rydym am ymroi i sicrhau bod y corpws ar gael i bawb mewn fformat digidol hygyrch. Nod pellach i’r prosiect yw taflu goleuni newydd ar ddatblygiad barddoniaeth gynnar y Gymraeg a tharddiad chwedlau Myrddin ac Arthur.”

Datgelu Myrddin y Cymry

Bydd y tîm traws ddisgyblaethol rhyngwladol hwn yn adrodd stori fanylach am sut y gwnaeth cymdeithasau cynhanesyddol wireddu mordeithiau agos a phell, trefnu cyfnewid o bell, a’i ffordd o fyw ger y môr yn y cyfnod cynhanesyddol. Bydd ‘Cyfrangau arforol’ yn creu gwrthbwynt i brif naratif daearol cynhanes Ewrop.

Y Ganolfan Geltaidd yn chwarae rhan allweddol mewn prosiect newydd rhyngwladol

Mae tri bardd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfansoddi cerddi newydd mewn ymateb i hen lawysgrifau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n ymdrin â’r tywydd a newid hinsawdd.

Hen lawysgrifau yn ysbrydoli cerddi cyfoes am newid hinsawdd

This project seeks to better understand the condition of the maternal through a study of maternal performance. It is driven by researching both the conditions in which mother artists make work and the contexts in which that work is received. 

Performance and the maternal

Building on earlier work, we find that linear forms of storytelling – rarely used in news – are more effective in transferring knowledge to news consumers and are seen as more engaging, convenient and useful than the traditional inverted pyramid.

Innovating Online Journalism: New Ways of Storytelling

Gan ddefnyddio offer golwg cyfrifiadurol arloesol i ddadansoddi darluniau hanesyddol o bobl a llefydd mewn llyfrau, bydd Finding a place: advancing digital methods to unlock the use of digitised book illustrations in cultural institutions yn canfod patrymau gweledol ar draws darluniau o adeiladau, tirweddau a phobl i ddatgelu byd angof o ddelweddau.

Datgloi ein treftadaeth: Prosiect rhyngwladol gyda sefydliadau diwylliannol yn datgelu darluniau llyfrau cudd

Mae’r deuddeg o gerddi darluniadol yn amlygu gwahanol gyfnodau o hanes Cymru.

The History of Wales in Twelve Poems

Os oes gennych rywfaint o ymchwil wedi’i gwblhau’n ddiweddar yr hoffech i ni ei rannu mewn cylch ymchwil yng Nghymru yn y dyfodol, cysylltwch â Joe Boyle.


Darllen pellach

Between environmental concerns and compliance: How does media messaging affect motivation and choice between disposable versus reusable facemasks?, UKRI

Joining the Dots—Understanding the Value Generation of Creative Networks for Sustainability in Local Creative Ecosystems, Sustainability, November 2021

Innovating Online Journalism: New Ways of Storytelling, Journalmism Practice, January 2022

An Edition of the Welsh Merlin Poetry, UKRI