Y Cyfnod Clo Ddim Yn Rhwystr i’r Ysgol Myfyrwyr Ysgol Hyn o Gymru, Sydd Wedi Ennill Gwobrau

Mae rap am nitrogen a chyflwyniad i ddamcaniaeth cwantwm y gallai hyd yn oed chi ei deall, wedi ennill cystadleuaeth i fyfyrwyr ysgol o Gymru a gafodd ei chynnal dros yr haf.

Gofynnodd Her Dysgu’r Cyfnod Clo Cymdeithas Ddysgedig Cymru i fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 11 a 13 i greu esboniadur ar bwnc y byddant yn ei astudio yn y chweched dosbarth neu’r brifysgol a thrwy hynny, llenwi’r bwlch oedd wedi cael ei adael drwy ganslo arholiadau’r haf.  

Cafwyd ceisiadau o bob rhan o Gymru, a chawsant eu beirniadu gan Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig.

Roedd yr ystod o bynciau yn eang, ac yn cwmpasu popeth, o’r gronynnau lleiaf i ehangder y gofod allanol.

Enillodd Grazia Obuzor, o Ysgol Uwchradd Hawthorn, Pontypridd, wobr Blwyddyn 11 gyda rap am nitrogen, oedd yn seiliedig ar y gân ‘My Shot’ o sioe gerdd Hamilton.

Yr enillydd arall oedd Daniel Hunt, hefyd o Rondda Cynon Taf. Eglurodd y myfyriwr o Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, mewn iaith glir, gymhlethdodau damcaniaeth cwantwm i ennill gwobr Blwyddyn 13. Derbyniodd Daniel a Grazia £300, tra enillodd y rheiny a ddaeth yn ail £150.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac un o’r beirniaid:

“Cefais i, ynghyd â gweddill y panel, ein syfrdanu gan ansawdd y gwaith. Mae dychymyg, deallusrwydd a’r eglurder mynegiant sy’n cael ei arddangos yn glod i’r myfyrwyr unigol eu hunain a hefyd, i’w hysgolion a’u hathrawon.

“Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran. Mae’r cyfnod cloi wedi bod yn her i bobl ifanc. Mae’r gwydnwch sydd wedi cael ei ddangos drwy gymryd rhan yn yr Her hon yn dangos cryfder cymeriad go iawn.”


Daniel Hunt (Enillydd Gwobr Safon Uwch, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog): 

Quantum Theory and Some Confounding Experiments

“Rwy’n gyffrous iawn o fod wedi ennill y gystadleuaeth, felly diolch yn fawr am y cyfle i gymryd rhan. Mwynheais yr her yn fawr fel ffordd o ymestyn fy hun yn ystod y cyfnod cloi. Roedd yn anodd ceisio penderfynu beth i’w ddweud mewn 2000 o eiriau,  ond roedd yn werth yr ymdrech ar ôl i mi ei orffen. Dwi wrth fy modd fy mod i wedi ennill yr her, ond roedd y dasg ei hun yn hwyl, ac wedi fy nghadw i’n brysur am ychydig wythnosau.”


Grazia Obuzor (Enillydd TGAU, Ysgol Uwchradd Hawthorn):

You Called Me Nitrogen

“Roedd y fideo hwn yn gymaint o hwyl i’w wneud, yn enwedig oherwydd fy mod i wedi cael y cyfle i gyfuno dau o fy hoff bethau: Cemeg a HAMILTON! Dwi wrth fy modd bod y beirniaid yn ei hoffi hefyd. Diolch yn fawr am ddewis hwn fel prosiect buddugol; mae’n golygu llawer i mi.”


Holly Beacham (myfyriwr Safon Uwch a ddaeth yn ail, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban):

Studying Viruses, their Diseases and the Immunology that Follows

“Cymerais ran yn y gystadleuaeth pan anfonodd athro ddolen atom i’r wefan ar ddechrau’r cwarantin. Penderfynais roi cynnig arni, a chreu powerpoint ar firoleg ac imiwnoleg, sef yr hyn dwi’n mynd i’w astudio. Roeddwn i’n meddwl y byddai’n ffordd ardderchog o gael eraill i ymddiddori mewn maes astudio sy’n berthnasol iawn ar hyn o bryd. Roedd yn ffordd ardderchog o gael pen blaen ar y cwrs, oherwydd yr ymchwil sydd angen i mi ei wneud i greu’r powerpoint.”


Peredur Morgan (myfyriwr Safon Uwch a ddaeth yn ail, Ysgol Penweddig)

Effaith COVID-19 ar Ariannu’r Wlad 

“Rwy’n ddiolchgar iawn i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am gynnig y cyfle yma. Roedd cael testun agored wedi fy ysbrydoli i fynd i’r afael â phwnc sydd o diddordeb mawr i fi. Roedd yn gyfle gwerthfawr iawn i  ddatblygu sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu am bwnc hollol gyfoes, yn ogystal â dysgu mwy am economeg a’r byd ariannol. Bydd y sgiliau yma yn ddefnyddiol iawn pan fyddaf yn astudio Economeg yn y brifysgol! Diolch yn fawr iawn. ”


Steffan Rhys Thomas (GCSE runner-up, Ysgol Gyfun  Gymraeg Glantaf): 

Ydy’r Bydysawd yn Ehangu?

“Rydw i wrth fy modd i glywed am y wobr. Mae wedi bod yn brofiad gwych i wneud gwaith estynedig ar bwnc sy’n fy niddori yn fawr iawn. Roedd y cyfle i ffocysu ar ymchwil academaidd hefyd yn werthfawr yn ystod cyfnod clo COVID-19. Rwyf wedi mwynhau’r sialens ac yn ddiolchgar i’r Gymdeithas am gynnal y gystadleuaeth.”