Cyngor ar Bolisi
Un o'n blaenoriaethau strategol yw cyfrannu at atebion polisi pwysig drwy ddarparu cyngor annibynnol a hwyluso cyfnewid gwybodaeth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn dod â grwpiau o arbenigwyr at ei gilydd i ddatblygu cyngor ar bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar bynciau mawr a phwysig.
Rydym ar hyn o bryd yn ail-lunio ein rhaglen cyfnewid gwybodaeth, a fydd yn cael ei harwain gan Grŵp Cynghori newydd o arbenigwyr. Cadwch lygad ar y gofod hwn am ddatblygiadau newydd dros y misoedd nesaf.
Rydym hefyd yn eiriol yn gyhoeddus dros werth ymchwil a gwybodaeth ar gyfer Cymru, ac yn gwneud argymhellion i helpu i gyflawni hyn, er enghraifft drwy ymatebion i ymgynghoriadau.
Os ydych yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn dymuno cyfrannu cyngor ar bolisi, ystyriwch gyflwyno cais am gefnogaeth ar gyfer digwyddiadau i Gymrodyr CDdC, y gellir ei ddefnyddio i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n ymwneud â pholisi.
Os nad ydych chi’n Gymrawd, gallwch ystyried gwneud cais am Grant Gweithdy Ymchwil.