Ysbrydoli pobl ifanc yn yr ysgol

Mae dyfodol Cymru’n dibynnu ar feithrin talentau ac egni pobl ifanc. Rydym ni am chwarae ein rhan drwy gefnogi dyheadau disgyblion ysgol ar draws y genedl gyfan.

Cliciwch yma i fynd yn ôl at brif dudalen Apêl y Dengmlwyddiant

Mae Cymru’n genedl o bobl ifanc dalentog. Fodd bynnag mae un ym mhob tri phlentyn yn byw mewn tlodi, a phlant difreintiedig yw’r lleiaf tebygol o lwyddo’n addysgol. Maen nhw’n fwy tebygol o orffen eu haddysg yn gynnar, ac yn llai tebygol o lawer o fynd i brifysgol.

Bydd eich rhodd yn ein helpu i ysbrydoli pobl ifanc – beth bynnag eu cefndir – i ganfod eu nodau addysgol eu hunain a chyflawni eu potensial.

Rydym ni’n cynllunio prosiect Llwybrau Rhagoriaeth, a ddatblygir mewn ymgynghoriad ag athrawon a gweithwyr addysg eraill. I ddechrau’r gwaith hwn, byddwn yn trefnu cyfres o weithgareddau peilot ar raddfa fach, gan brofi dau ddull o gefnogi dysgwyr rhwng 9 a 14 oed ar draws Cymru:

  • ‘Teithiau Bywyd’ – pwysleisio cysylltiadau ein Cymrodyr â’r cymunedau Cymreig lle cawsant eu geni, eu magu neu lle buont yn astudio. Byddwn yn crynhoi straeon teithiau gyrfa a bywyd y Cymrodyr, eu dewisiadau a’u llwybrau at lwyddiant.
  • ‘Ysbrydoli Llwyddiant’ – bydd y gweithgaredd hwn yn dod â disgyblion o nifer o ysgolion at ei gilydd. Bydd ein Cymrodyr neu enillwyr medalau’n cyflwyno sgyrsiau rhyngweithiol sy’n ysbrydoli ar bynciau cyfoes. Yna byddwn yn trefnu gweithdai ymarferol i ddatblygu dealltwriaeth o’r pwnc neu sgiliau, a chyfleoedd am gymorth dilynol mewn ysgolion.