Apêl y Dengmlwyddiant

Mae’r Gymdeithas yn dathlu ei denglmwyddiant ym mis Mai 2020. Er mwyn adeiladu ar ein llwyddiannau a chefnogi cenedlaethau iau, rydym ni wedi lansio Apêl Codi Arian.

Wrth i ni helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Cymru a’r byd – yn enwedig brwydro’r coronafeirws a sicrhau dyfodol gwell i bawb – bydd Cymru’n dibynnu’n helaeth ar ymchwil ac ysgolheictod a chyflawniadau cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen felly i ni ysbrydoli rhagoriaeth ymhlith pobl ifanc a’r rheini sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ymchwil.

Rydym ni’n codi arian ar gyfer dau weithgaredd blaenoriaeth:

Cefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar

Rydym ni am gefnogi ymchwilwyr ar draws Cymru i rannu eu gwaith, cydweithio a datblygu sgiliau.

Rhagor o wybodaeth

Ysbrydoli Pobl Ifanc yn yr Ysgol

We want to help school pupils in Rydym ni am helpu disgyblion ysgol Cymru i ddilyn eu llwybrau eu hunain at ragoriaeth mewn dysg.

Rhagor o wybodaeth

Ein stori hyd yma

Ers 2010 mae’r Gymdeithas wedi:

  • Adeiladu Cymrodoriaeth o dros 560 o unigolion eithriadol, sy’n cynrychioli cyfraniadau rhagorol ym maes dysg ar draws yr holl ddisgyblaethau academaidd a thu hwnt
  • Dyfarnu 22 Fedal i gydnabod rhagoriaeth mewn sawl maes, yn cynnwys ymchwil gyrfa gynnar a menywod mewn STEMM
  • Sefydlu enw da fel llais annibynnol arbenigol – gydag effaith amlwg ar bolisïau’r llywodraeth o ran addysg uwch, ymchwil a strategaeth ryngwladol
  • Trefnu nifer o symposia academaidd pwysig, ochr yn ochr â digwyddiadau a darlithoedd niferus gyda phartneriaid ar draws Cymru a thu hwnt, yn cynnwys academïau cenedlaethol eraill sydd â buddiannau cyffredin
  • Ailsefydlu Astudiaethau Cymreig – ymchwil am Gymru, i Gymru a’r byd – fel ymdrech ddeallusol genedlaethol gyfunol

Sut i roi

Cliciwch y botwm isod i roi i Apêl y Dengmlwyddiant gyda cherdyn, PayPal neu ddebyd uniongyrchol.

Byddwn ni’n neilltuo’r rhoddion hyn i’n ddau brosiect dengmlwyddiant – Cefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ac Ysbrydoli Pobl Ifanc yn yr Ysgol – fel y dymunwch.

Ar gyfer opsiynau rhoi eraill, cliciwch yma.