#ChooseToChallenge: Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod – Neges gan y Llywydd

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae’n bleser gennyf ailddatgan ymrwymiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn enwedig i gynnwys menywod.

Yn ystod yr wythnosau i ddod, byddwn yn tynnu sylw at gyflawniadau ac arbenigedd ein Cymrodyr benywaidd ar draws y gwyddorau, y celfyddydau, y dyniaethau a gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn benderfynol o fod yn Gymdeithas groesawgar a chynhwysol. Byddwn yn #ChooseToChallenge rhagfarn ar sail rhyw ac anghydraddoldeb.

Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi targedau pellach i gynyddu nifer y menywod sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer Cymrodoriaeth, ac i sicrhau cyrff llywodraethu sy’n gytbwys o ran y rhywiau yn y Gymdeithas. Byddwn yn cynnal sesiynau gwybodaeth agored hefyd am ddod yn Gymrawd – cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy.

Am y tro, hoffwn ddymuno Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hapus i chi gyd.

Yr Athro Hywel Thomas,

Llywydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru