Cynllun Grantiau’r Gymdeithas yn Arwain at Fwy o Lwyddiant Ariannol
Mae effaith ein rhaglen datblygu ymchwilwyr yn amlwg yn sgil dyfarnu cyllid sylweddol i un o dderbynwyr diweddar ein Cynllun Grantiau Gweithdy Ymchwil.
Mae Dr Tegan Brierley-Sollis wedi derbyn £15,000 gan Ganolfan Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru i ddatblygu ei phrosiect, Police Peer Supervision to Support Wellbeing, a chyfrannu at ddatblygu dulliau ac adnoddau ar sail trawma ar gyfer Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Nod y prosiect hwn ydy cyfrannu tuag at greu ‘Cymru iachach’ drwy ganolbwyntio ar les meddyliol staff yr heddlu. Yn ehangach, gall y math hwn o waith ddangos sut y gall gwell amodau i staff o fewn ystod o sefydliadau cyhoeddus, fel yr heddlu, arwain at ddarparu gwasanaeth gwell drwy beidio â gadael i weithwyr flino a mynd yn sâl.
Cafodd llwyddiant cais Dr Brierley-Sollis ei adeiladu ar y grant a dderbyniodd gan y Gymdeithas drwy ein Cynllun Grantiau, ac a ddefnyddiodd i gynnal cyfres o weithdai a helpodd i ddatblygu ei chais dilynol.
Cynhaliwyd y gweithdy cyntaf ar ddydd Llun 11 Mawrth 2024, a daeth tîm y prosiect a’i gydweithiwr o Heddlu Gogledd Cymru i’r digwyddiad. Roedd y drafodaeth yn trafod materion yn ymwneud â thrawma dirprwyol a straen trawmatig eilaidd o fewn cyd-destun plismona a darpariaeth lles gyfredol. Cafwyd adborth ar y model goruchwylio cymheiriaid arfaethedig, yn ogystal â sut i wneud y broses ymchwil yn addas ar gyfer amgylchedd plismona.
Fe wnaeth gweithdy dilynol ym mis Ebrill adeiladu ar y gwaith hwn, a rhoi cyfle i aelodau eraill o staff Heddlu Gogledd Cymru i roi eu hadborth ar y cynigion.
Yn dilyn y gweithdy cyntaf, derbyniodd y tîm ymchwil a Heddlu Gogledd Cymru gyllid ychwanegol o £15,000 gan Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru i gyflawni’r prosiect. Mae Hyb ACE Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam i weithredu’r pecyn cymorth sefydliadol hwn, a gafodd ei lywio gan Ace a Thrawma, ac roeddent yn falch o allu cyfrannu at y gwaith hwn fel partner sy’n cydweithio.
“Roeddem wrth ein bodd yn clywed am lwyddiant Dr. Brierley-Sollis,” meddai Barbara Ibinarriaga Soltero, sy’n rheoli gwaith datblygu ymchwilwyr y Gymdeithas ac sy’n goruchwylio’r cynllun grantiau ymchwil.
“Dyma’n union oedd bwriad y cynllun grantiau: rhoi’r cyllid cychwynnol i ymchwilwyr sydd weithiau, yn gallu bod yn anodd ei gael, ond a allai agor drysau ac arwain at fwy o lwyddiant ariannol.
Yn flaenorol, roedd Tegan wedi cyflwyno ei gwaith yn un o’n digwyddiadau Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar o’r enw, ‘Creating Well-being: Research and Practice’. Mae’r cyfleoedd rhwydweithio hyn, ochr yn ochr â’r grantiau eu hunain, yn rhan greiddiol o waith y Gymdeithas Ddysgedig, ac yn dangos sut rydym yn cyflawni ein hymrwymiad strategol i gefnogi arbenigwyr y presennol a dyfodol Cymru.”
Bydd y cynllun grantiau ar gyfer 2024-25 yn ailagor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.