Cynllun Grantiau Ymchwil yn cynnig hyd at £1000 – Ceisiadau ar agor nawr

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad y rownd ddiweddaraf o gyllid sydd ar gael fel rhan o’n Cynllun Grantiau Ymchwil.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ddyfarnu grantiau i wyth prosiect a nawr, rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rownd 2 o gynllun 2023 / 24. Mae’r alwad am gynigion bellach ar gau. 

Mae grantiau o hyd at £1000 ar gael i gefnogi trefnu gweithdai sy’n dod â phobl at ei gilydd ar y cam cyntaf o gynllunio a datblygu prosiect ymchwil cydweithredol.

Eleni rydym yn dyfarnu grantiau sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau canlynol:

  • Astudiaethau Cymru
  • Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Ymchwilydd Gyrfa Gynnar (unrhyw ddisgyblaeth) fel arweinydd prosiect

Edrychwch ar y prosiectau a gafodd eu hariannu gennym yn 2022/23.