Rhaglenni a Themâu

Fel rhan o’i rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau, mae’r Gymdeithas yn datblygu nifer o gyfresi o ddarlithoedd a themâu penodol sy’n cefnogi byd dysg. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Cyfresi darlithoedd

·         Ffiniau
Cyfres o ddarlithoedd yw Ffiniau lle gwahoddir academyddion nodedig i siarad am ffiniau ymchwil a gosod eu cyfraniadau eu hunain yn eu cyd-destun.

·         Pen-blwyddi
Cyfres o ddarlithoedd yw Pen-blwyddi, gyda phob un yn gysylltiedig â phen-blwydd, lle gwahoddir academyddion nodedig i ystyried neu ddathlu unigolyn neu ddigwyddiad.

Themâu

·         Ynni
Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau yn trafod y maes pwysig hwn o nifer o safbwyntiau gwahanol.

·         Dyfeisio, arloesi a newid

Wrth galon ein dealltwriaeth o newid mae’r rhyngweithio a geir rhwng agweddau technegol, masnachol a chymdeithasol dyfeisiadau, arloesi a gwelliannau, cynnyrch a marchnadoedd, polisïau’r llywodraeth, addysg dechnegol ac arferion unigol. Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau a gweithredoedd yn ymdrin â’r elfennau sylfaenol hyn yn yr “economi gwybodaeth”.

·         Hanes gwyddoniaeth a thechnoleg

Mewn gwlad y gellid dadlau mai hi yw’r genedl ddiwydiannol gyntaf, ychydig iawn sy’n wybyddus am hanes ac etifeddiaeth Cymru o ran gwyddoniaeth a thechnoleg, a phrin yw’r sylw a roddir i’r maes. Eto i gyd mae Cymru a’i phobl wedi chwarae rhan bwysig yn nhwf gwybodaeth wyddonol a’r modd y’i defnyddir. Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau i ddatblygu hanes a dealltwriaeth o wyddoniaeth a thechnoleg yn gyffredinol, a’r etifeddiaeth wyddonol a thechnolegol Gymreig yn benodol.

·         Y Prifysgolion
Mae Prifysgolion yn ganolog i ddatblygiad y byd modern. Cynyddu mae disgwyliadau unigolion, busnesau a llywodraethau o addysg uwch, ac mae’r rhain yn gwrthdaro o dro i dro. Cyfyd y cwestiwn byd-eang: Beth yw diben Prifysgolion? Bydd y Gymdeithas yn trefnu digwyddiadau fydd yn trafod natur gymdeithasol, economaidd a diwylliannol y Prifysgolion, ynghyd â’u swyddogaeth.

Mae’r Gymdeithas yn croesawu cynigion gan academyddion ac eraill, o Gymru ac yn ehangach, ar gyfer darlithoedd, symposia a digwyddiadau eraill a fydd yn cefnogi neu’n datblygu ei Rhaglen thematig.