Manylion y Cynllun Grant

Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gefnogi eich prosiect.

Beth yw gweithdy ymchwil?

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ystyried Gweithdy fel ysgolheigion yn dod at ei gilydd yn gynnar yn y broses o gynllunio, ac yn datblygu menter ymchwil gydweithredol. Sylwer mai bwriad y grantiau hyn yw annog a chefnogi amrywiaeth o gyfarfodydd a digwyddiadau i hyrwyddo’r gwaith o archwilio’r pwnc, ac nad yw un digwyddiad sy’n rhannu ymchwil wedi’i gwblhau neu ymchwil uwch yn gymwys o dan y cynllun hwn. 


Rhagwelir y bydd pob prosiect Gweithdy yn arwain at ddatblygu rhwydwaith, neu at amlinellu syniad ar gyfer gwneud cais am brosiect grant yn y maes fydd yn cael ei archwilio, er mwyn darparu canlyniadau pendant a fydd o werth i’r gymuned academaidd a’r cyhoedd ehangach.

Gallwch weld rhai enghreifftiau o brosiectau o gynllun peilot y llynedd yma.

Am fanylion llawn y cynllun, edrychwch ar ein canllaw.

Pwy sy’n cael ymgeiso

Mae’n rhaid i geisiadau gynnwys dau sefydliad neu fwy.
Bydd Ymgeiswyr Arweiniol yn un o’r canlynol:

  • yn academydd amser llawn neu ran-amser sydd yn cael ei gyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru;
  • yn ymarferydd amser llawn neu ran-amser, neu’n aelod o staff sy’n weithgar ym maes ymchwil yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, gydag ymrwymiad amlwg i addysgu ac ymchwil o fewn y sefydliad hwnnw.

Gall Ymgeiswyr Arweiniol fod ar gontract dros dro neu barhaol yn eu sefydliad.

Beth rydym yn chwilio amdano

Prif egwyddorion y cynllun ariannu ydy:

  • darparu ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol
  • gweithio gyda phartneriaid allanol i gyd-gynhyrchu canlyniadau ymchwil ac i gyfnewid gwybodaeth
  • sicrhau bod egwyddorion ac arferion gorau mewn perthynas â gweithio rhyngddisgyblaethol yn cael eu mabwysiadu o’r cychwyn cyntaf, a chaniatáu ar gyfer datblygu partneriaethau gwirioneddol gydweithredol, a fydd yn darparu atebion i heriau cymhleth
  • ystyried a chyfrannu at saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • cynllunio ac adeiladu partneriaeth gydweithredol er mwyn paratoi i wneud cais o bosibl am gyfleoedd ariannu yn y dyfodol

Yn ogystal â’r egwyddorion hyn, mae gan bob ffrwd feini prawf penodol y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy yn y cais: gweler y canllaw am fwy o fanylion.

Dim ond i un ffrwd ariannu y gallwch wneud cais

Dylai ceisiadau llwyddiannus fod â dyddiad cychwyn rhwng 1 Ebill 2023 – 31 Gorffennaf 2023.

Yr arian sydd ar gael

Gallwch wneud cais am hyd at £1,000 i gefnogi eich prosiect.

Gall ceisiadau gynnwys costau uniongyrchol wedi’u cyfiawnhau’n llawn a godwyd wrth gyflawni’r prosiect.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Yn ogystal â’r gofynion cyfreithiol allweddol, dylai ymgeiswyr ystyried sut y byddant yn mynd i’r afael ag anghenion penodol sy’n gysylltiedig â EDI, yn unol ag ymrwymiad y Gymdeithas i EDI.

Effaith ac adrodd   

Byddwn yn gofyn i’r rheini sy’n cael eu derbyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd (trwy gyfrwng ffurflen fer) erbyn 1 Awst 2023, ac adroddiad terfynol sy’n amlinellu gweithgareddau, canlyniadau ac effaith y prosiect erbyn 31 Hydref 2023.

Am fanylion llawn y cynllun, edrychwch ar ein canllaw.

Dyddiad Cau: 3 Mawrth 2023

Cefnogir gan CCAUC