Medalau ymchwilwyr gyrfa cynnar

Mae’r tri dyfarniad blynyddol yn unigryw, gan gydnabod cyfraniadau rhagorol mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ysgolheigaidd gan gynnwys: Y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes

Mae Medalau Dillwyn yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru.

Mae’r dyfarniadau’n bodloni amcan strategol y Gymdeithas sef dathlu ysgolheictod Cymreig yn y gwyddorau, y celfyddydau a’r dyniaethau’n gyhoeddus. Diffinnir “ymchwilydd gyrfa gynnar” fel “ymchwilydd sydd ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad gwaith a dim mwy na deng mlynedd o brofiad gwaith“.

Mae’r tri dyfarniad blynyddol yn unigryw, gan gydnabod cyfraniadau rhagorol mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ysgolheigaidd gan gynnwys:

  • Y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth
  • Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes

Nid oes unrhyw gyfyngiadau oed ac mae’r rheini sydd wedi cymryd toriad yn eu gyrfa hefyd yn gymwys.

Dyfernir medal ddathliadol a grëir yn arbennig i’r enillydd, ac fe’i cyflwynir mewn digwyddiad a drefnir gan y Gymdeithas. Bydd gwobr ariannol a thystysgrif yn cyd-fynd â’r fedal.

Digwylir i’r sawl sy’n derbyn y dyfarniad draddodi darlith gyhoeddus berthnasol a/neu gyhoeddi erthygl fer sy’n codi proffil ymchwil gyrfa gynnar yng Nghymru ac yn y DU.

Mae’r cais am enwebiadau’n agored i bawb, ond ni all enwbeion enwebu eu hunain.

Ceir ffurflenni enwebu a rhagor o fanylion yma.

Cefnogir y dyfarniadau gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).