Offeryn pwerus yw iaith: rhaid i Gymru wneud y gorau o’i hamlieithrwydd

Rhaid i ni beidio â gwastraffu manteision gwleidyddol a diwylliannol dwyieithrwydd Cymru, yn ôl un o’r siaradwyr mewn cynhadledd a drefnir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru fis nesaf.

Cynhelir ‘Trwy Brism Iaith” ar 23-25 Tachwedd. Bydd yn dod â gwleidyddion, academyddion a’r cyfryngau at ei gilydd i archwilio sut y gall Cymru harneisio ei threftadaeth ieithyddol unigryw yn well.

Bydd penderfyniadau polisi’n effeithio ar allu Cymru i fodloni nodau llesiant er mwyn creu diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg lewyrchus gyda miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Academydd a bardd yw Mererid Hopwood, sydd wedi helpu i drefnu’r gynhadledd. Dywed bod rhaid i Gymru ddarganfod ymdeimlad o frys os yw am wneud y gorau o’i manteision ieithyddol:

“Mae angen i ni feddwl eto beth mae gallu deall a siarad mwy nag un iaith yn ei olygu. Dyw hyn ddim yn fater syml o gael mwy nag un label am yr un set o wrthrychau. Mae’n ymwneud ag agor y meddwl i fyd o bosibiliadau gwahanol. Mae iaith yn fwy na pholisi ac addysgeg a meysydd cul o arbenigedd, mae’n ymwneud â phobl. Dyma sydd wrth galon profiad a dealltwriaeth ddynol.”

Daw’r gynhadledd â siaradwyr o bedwar ban byd at ei gilydd, a bydd yn edrych ar y ffordd mae iaith yn creu ymdeimlad o hunaniaeth, perthyn ac amrywiaeth diwylliannol.

Bydd yn holi pa gamau polisi ymarferol sydd eu hangen i osgoi risg difodiant iaith ac yn cyfeirio at y gwersi a ddysgwyd yng Nghymru, ac y gall Cymru eu dysgu gan wledydd eraill.

Cynhelir y gynhadledd 3-diwrnod dros y platform AM a Zoom a bydd yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau panel, dadleuon a chyfle i rwydweithio gyda siaradwyr o’r byd academaidd, gwleidyddiaeth, addysg a’r celfyddydau.

Dywedodd yr Athro Hopwood: “Gobeithio y bydd y gynhadledd hon,  yn y ffordd mae’n dod â chynifer o agweddau o ymchwil iaith at ei gilydd, yn gweithredu fel prism fydd yn ein galluogi i weld mwy o’r sbectrwm o bosibiliadau y gall dwyieithrwydd ac amlieithrwydd eu cynnig.”

Gellir archebu tocynnau i’r gynhadledd drwy wefan Cymdeithas Ddysgedig Cymru.