Yr Athro Ann Parry Owen: ddiddordeb braidd yn obsesiynol mewn iaith a llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg

I nodi cyhoeddi ein carfan o Gymrodyr yn 2019, yn gynharach eleni gwahoddom ni rai o’r rhai a etholwyd i fyfyrio ar eu gyrfaoedd hyd yma.

Ceir manylion un o’r Cymrodyr hynny isod.

Mae’r Athro Ann Parry Owen yn arbenigo ar iaith, gramadeg a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, yn arbennig rhwng 1100 a 1500.

Dywed iddi gael ei hysbrydoli i fynd i’r maes hwn gan “ddiddordeb braidd yn obsesiynol mewn iaith a llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg – a ddechreuodd pan enillais i docyn llyfr £9 ar gwis teledu Cymraeg pan oeddwn i’n 12 oed. Am ryw reswm fe wariais i’r tocyn ar bedair cyfrol: Pedeir Keinc y Mabinogi, Llawysgrif Hendregadredd, Canu Aneirin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Yn ffodus, roedd fy athro Cymraeg gwych yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen, Mr Gwynne Williams, yn fodlon eu darllen gyda fi – roeddwn i wedi fy machu!”

Cychwynnodd ei gyrfa yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd fel Cymrawd Ymchwil ar brosiect Beirdd y Tywysogion, pan fu’n gyd-awdur dwy gyfrol bwysig ar farddoniaeth prif fardd y cyfnod (Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I a II). Yn 1994 fe’i penodwyd yn Arweinydd Prosiect Beirdd yr Uchelwyr ac ers hynny cyhoeddwyd 44 o gyfrolau yn y gyfres. Mae hi’n “hynod o falch o’r 44 cyfrol yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr” nid lleiaf am mai hi oedd y golygydd cyffredinol a’r cysodwr, a hefyd am fod “y gyfres wedi arloesi gyda chyhoeddi print digidol yng Nghymru yn y 1990au.”

Yn 2007 enillodd yr Athro Parry Owen y grant mwyaf (hyd y dyddiad hwnnw) a roddwyd erioed i sefydliad Cymreig gan y Gyngor y Celfyddydau a’r Dyniaethau (yr AHRC), ar gyfer prosiect Guto’r Glyn. Prif nod y prosiect oedd cynhyrchu golygiad digidol newydd a dwyieithog o waith un o feirdd mwyaf y bymthegfed ganrif, ac mae’r gwaith hwnnw i’w gael bellach yn rhad ac am ddim ar wefan Guto’r Glyn <gutorglyn.net/gutorglyn/index>.

Drwy gydweithio gydag arbenigwr digidol o Brifysgol Abertawe, datblygodd yr Athro Parry Owen ddull arloesol o gyflwyno golygiad o farddoniaeth ganoloesol ar lein. Yn rhan o’r prosiect hefyd datblygwyd ail wefan, Cymru Guto, yn disgrifio gwahanol agweddau ar fywyd materol yn y bymthegfed ganrif. Ar y cyd â staff Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru,  lluniwyd animeiddiad cyfrifiadurol o fardd yn ymweld â chartref noddwr a defnyddiwyd hwn i gyflwyno bywyd a barddoniaeth y bymthegfed ganrif i blant ysgol.

O 2015–17 bu’r Athro Parry Owen yn gyd-ymchwilydd ar prosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, gan ailolygu tair cerdd hir o’r ddeuddegfed ganrif i Tysilio, Cadfan a Dewi Sant. Bellach mae hi’n gyd-ymchwilydd ar brosiect ‘Tirweddau Sanctaidd’ Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac yn gweithio ar gyfrol o farddoniaeth ganoloesol a ganwyd yn abatai Ystrad-fflur a Glyn-y-groes. Er 2017 mae’r Athro Parry Owen hefyd wedi bod yn olygydd hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru.

Ymysg y darganfyddiadau pwysig mae hi wedi eu gwneud mae:

  • testun gramadeg barddol anhysbys o 1375 y mae hi wedi ei alw’n ‘Gramadeg Gwysanau’;
  • prawf mai Caerfyrddin, nid Caer (Chester) yw’r dref sy’n ganolbwynt i gerdd enwog Dafydd ap Gwilym ‘I’r Grog o Gaer’;
  • cerdd newydd sy’n debygol iawn o fod yn gerdd gan Dafydd ap Gwilym i’w wallt ei hun.

Fodd bynnag, pan ofynnwyd iddi pa gyflawniad roedd hi’n fwyaf balch ohono, dywedodd: “bod yn arweinydd prosiect yn y Ganolfan ac annog ac arwain nifer o ysgolheigion ifanc sydd ers hynny wedi rhagori yn eu gyrfaoedd academaidd.”

Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn enwau lleoedd, ac mae hi’n olygydd Enwau Cymru, cylchgrawn Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac yn aelod o Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg. Ei gobaith yw gweld gwell “dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gyfoeth diwylliant a dysg Cymru yn y gorffennol, a balchder yn y rhan a chwaraewyd gan y Gymraeg fel cyfrwng cyfoethog ar gyfer trafod materion pwysig Ewrop yr oesoedd canol.”

Blogiau blaenorol yn y gyfres.

Y blog nesaf yn y gyfres.