Yr Athro Hywel Francis: gorau arf, arf dysg

I nodi cyhoeddi ein carfan o Gymrodyr yn 2019, yn gynharach eleni gwahoddom ni rai o’r rhai a etholwyd i fyfyrio ar eu gyrfaoedd hyd yma.

Ceir manylion un o’r Cymrodyr hynny isod.

Yr Athro Hywel Francis

Gyda phrofiad academaidd ynghyd â phrofiad seneddol, mae’r Athro Hywel Francis wedi cyfrannu at nifer o feysydd dysg. Ymhlith ei gyflawniadau mae arbenigedd mewn hanes cymdeithasol a llafar ac addysg oedolion, ac ymgymryd â swyddi arweiniol ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae’n gweithio fel “hanesydd, addysgwr oedolion ac actifydd gwleidyddol i ddatblygu strategaethau’n seiliedig ar y gwerthoedd byd-eang, cyfiawnder cymdeithasol a chydsafiad cymdeithasol”. Dywed wrthym yr ysbrydolwyd y nod hwn gan “aberth a gwerthoedd [ei] rieni a’u cymuned i sicrhau gwell bywyd i’w plant drwy wasanaeth cyhoeddus”.

Bu’r Athro Francis yn gweithio fel Athro Addysg Barhaus ym Mhrifysgol Abertawe tan 2001, pan gafodd ei ethol i gynrychioli Aberafan yn y Senedd. Pan oedd yn Abertawe, cwblhaodd yr Athro Francis waith arloesol ar hanes cymdeithasol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru gan arloesi gyda strategaethau ehangu mynediad i fyfyrwyr rhan amser oedd yn oedolion.

Hefyd sefydlodd Lyfrgell Glowyr De Cymru yn 1973, sy’n cynnwys deunydd a gasglwyd gan Brosiect Hanes Maes Glo De Cymru ac sy’n un o’r cyflawniadau mae’r Athro Francis yn fwyaf balch ohono.

Bu’r Athro Francis hefyd yn ymwneud â chreu Archif y Maes Glo, sydd wedi tyfu i fod yn Archifau Richard Burton. Hefyd helpodd i sefydlu Cymdeithas Hanes Pobl Cymru (Llafur), Prifysgol Gymunedol y Cymoedd, Sefydliad Bevan a Chyngres Cymru i Gefnogi’r Cymunedau Glofaol.

Gwasanaethodd yr Athro Francis fel Aelod Seneddol Llafur rhwng 2001 a 2015. Yn ystod ei gyfnod yn San Steffan, cadeiriodd dau Bwyllgor Dethol Seneddol pwysig: Materion Cymreig (2005-2010) a Hawliau Dynol (2010-2015). Yn ystod ei flwyddyn olaf yn y Senedd, fe’i penodwyd yn Gadeirydd Byw Nawr, y glymblaid gofal diwedd oes yng Nghymru sydd wedi cyflawni ei amcan a sicrhau cadarnhad Llywodraeth Cymru ar gyfer ei strategaeth ‘Cymru Drugarog’. Fe’i penodwyd yn Noddwr Seneddol Anrhydeddus y corff dysgu oedolion NIACE, cadeiriodd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Archifau a Hanes a daeth yn Is-Lywydd Carers UK. Ei lwyddiant deddfwriaethol pwysicaf oedd pasio ei Ddeddf (Cyfle Cyfartal) Gofalwyr yn 2004, sef y cyflawniad arall mae’n fwyaf balch ohono.

Yr Athro Hywel Francis a Syr Emyr Jones ParryEr 2015, mae’r Athro Francis wedi dychwelyd i Brifysgol Abertawe fel ymgynghorydd strategol ar Archifau, Polisi Rhanbarthol ac Ehangu Mynediad. Mae ei waith dros y blynyddoedd wedi canolbwyntio ar ymgysylltu cyhoeddus a chysylltu’r byd academaidd â chyfiawnder cymdeithasol, ac mae’n bwriadu i barhau i “weithio mewn cydsafiad gyda phobl Cymru drwy ymrwymiad i addysg a gwasanaeth cyhoeddus”. Mae’n enghraifft o’r modd y gellir cyfuno ymchwil academaidd a gwasanaeth ac ymgysylltu cyhoeddus. Edrychwn ymlaen at fanteisio ar ei arbenigedd a’i helpu gyda’i awydd i weld byd dysg Cymru’n “chwythu bywyd newydd i’r ddihareb ‘gorau arf, arf dysg’”.

Blogiau blaenorol yn y gyfres.

Y blog nesaf yn y gyfres.