Sut y gallwn wneud Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn fwy croesawgar a chynhwysol?

Eleni unwaith eto, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi rhoi cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd ei gweithgarwch. Byddwn yn cario hynny ymlaen i’r flwyddyn sydd i ddod. Rydym yn benderfynol o barhau i wneud y Gymdeithas yn groesawgar ac yn gynhwysol, ac i werthfawrogi a dathlu cyfraniadau pawb.

Buasem yn ddiolchgar petasech yn gallu cwblhau’r arolwg eich hun, ac anfon yr e-bost hwn at unrhyw unigolion yn eich rhwydwaith a allai, yn eich barn chi, werthfawrogi’r cyfle i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn. Rydym yn rhagweld y bydd yn cymryd tua 10-20 munud i gwblhau’r arolwg.

Rydym yn sylweddoli na fydd pob cwestiwn yn berthnasol i bob unigolyn ac felly, rydym yn gofyn i bobl ymateb dim ond lle maen nhw’n teimlo y gallant wneud y cyfraniad mwyaf.