Dr. Ben Guy
Mae ein Medal Dillwyn 2021 (Dyniaethau a Chelfyddydau Creadigol) yn cael ei dyfarnu i Dr Ben Guy, am ei ymchwil ar achyddiaeth Cymru yn y Canol Oesoedd.
Mae Dr Ben Guy yn Gymrawd Coleg Robinson ac yn Addysgwr Cyswllt ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Mae ei ymchwil yn archwilio diwylliant ysgrifenedig Cymru yn y Canol Oesoedd.
Mae’n gweithio ar achyddiaeth Cymru yn y Canol Oesoedd, a’i pherthynas â diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, ac mae’n addysgu hanes Prydain ac Iwerddon yn y Canol Oesoedd cynnar.
Darllenwch fwy am waith Dr. Guy.
Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Dr Guy:
“Mae’n anrhydedd mawr i fy ngwaith gael ei gydnabod fel hyn. Ar ôl cael fy magu yng Nghymru, dwi wedi teimlo’n frwdfrydig bob amser i ddysgu mwy am ei hanes a’i diwylliant diddorol.
“Rwy’n gobeithio y gallaf ysbrydoli eraill i geisio cael dealltwriaeth ddyfnach o’r tir hardd ond cymhleth hwn.”
Roedd Dr Sharon Thompson a Dr Joey Whitfield (y ddau o Brifysgol Caerdydd) hefyd wedi eu canmol gan Bwyllgor y Fedal.