Gwobr YGG Hywel Thomas am Ddiwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol

Mae Gwobr YGC Hywel Thomas am Ddiwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol yn dathlu Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (YGG) yng Nghymru sy’n cefnogi YGG eraill ac yn cyfrannu i amgylchedd ymchwil mwy cynhwysol, cefnogol a chynaliadwy. 

Mae’r wobr, a sefydlwyd wrth i’r Athro Hywel Thomas ddod i ddiwedd ei lywyddiaeth gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru, yn cydnabod ei arweinyddiaeth a’i werthoedd, gan adlewyrchu ymrwymiad i ddiwylliant ymchwil sydd, nid yn unig yn rhagorol, ond yn deg, yn gydweithredol, ac yn canolbwyntio ar bobl hefyd. Yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, hyrwyddodd yr Athro Thomas ymchwilwyr gyrfa gynnar a chefnogodd y gwaith o gryfhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gydnabod bod cymunedau ymchwil ffyniannus yn ddibynnol ar allu pob unigolyn i gymryd rhan a llwyddo.

Mae’r wobr hon yn parhau â’r gwaddol hwnnw drwy gydnabod YGG sy’n dangos arweinyddiaeth drwy ofal, cynhwysiant ac adeiladu cymunedau – cefnogi eraill wrth helpu i lywio diwylliant ymchwil sy’n agored, hygyrch a theg.

Dyfernir y wobr yng Ngholocwiwm Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026 yn Aberystwyth. Bydd enwebeion ar y rhestr fer yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad ac yn derbyn tystysgrif. Bydd enillydd y wobr yn derbyn tystysgrif, gwobr ariannol a chydnabyddiaeth ffurfiol yng nghyfathrebiadau’r Gymdeithas, gan gynnwys sianeli ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Yr Athro Hywel Thomas yw trydydd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ymgymryd â’r swydd ym mis Mai 2020 yn ystod y pandemig COVID-19. Arweiniodd  y Gymdeithas drwy gyfnod o ddatblygiad sylweddol, gan gynnwys sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, a pharhaodd â’r cynnydd drwy wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ei gwaith.

Yn ymchwilydd a gydnabyddir yn rhyngwladol, ef yw sylfaenydd y Ganolfan Ymchwil Daear-Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n gwasanaethu fel Comisiynydd Bevan, gan ddarparu cyngor arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar arloesi a gwelliant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bu hefyd yn arwain FLEXIS, prosiect £24 miliwn ar gyfer ymchwil systemau ynni yng Nghymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), yn Gymrawd Academi Frenhinol Peirianneg (FREng), ac yn Aelod o Academia Europaea, Academi Ewrop.

Yn 2017 derbyniodd CBE am wasanaethau i ymchwil academaidd ac addysg uwch. Yn 2021, cafodd ei ethol fel aelod tramor Academi Wyddorau Tsieina, yr anrhydedd uchaf a roddir gan lywodraeth Tsieina i wyddonydd tramor am gyfraniadau a chyflawniadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Yn 2025, derbyniodd yr Athro Thomas Wobr Cyfeillgarwch Llywodraeth Tsieina am ei ‘gyfraniad pwysig i foderneiddio sosialaidd yn Tsieina yn ogystal â chyfnewidiadau a chydweithio â gwledydd eraill.’

Mae ei arweinyddiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad cryf a pharhaus i gynorthwyo talent ymchwil yng Nghymru, gan gryfhau cymunedau a llywio diwylliant ymchwil sy’n gydweithredol, cynhwysol a blaengar – gwerthoedd sy’n sail i’r wobr hon.

Mae’r wobr yn cydnabod cyfraniadau lle mae YGG yn cefnogi YGG eraill ac yn cryfhau diwylliant ymchwil a chymuned mewn ffyrdd cynhwysol, cydweithredol ac effeithiol.

Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • fentora, cefnogaeth cymheiriaid neu nawdd sy’n gynhwysol ac yn ymatebol i anghenion a chefndiroedd gwahanol
  • adeiladu cymunedau neu rwydweithiau sy’n meithrin perthyn ac yn ehangu cyfranogiad
  • arweinyddiaeth mewn hyrwyddo arferion ymchwil teg, tryloyw a chefnogol
  • mentrau sy’n gwella llesiant ac yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau o fewn amgylcheddau ymchwil
  • creu cyfleoedd teg ar gyfer datblygu, cydweithredu a gwelededd
  • gwaith sy’n cyfrannu tuag at ddiwylliannau ymchwil mwy hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy

Rydym yn gwerthfawrogi’n arbennig gyfraniadau sy’n cydnabod pwysigrwydd cymuned, cyfrifoldeb a rennir a’r gwaith nas gwelir yn aml sy’n galluogi eraill i ffynnu.

Yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, rydym yn credu y dylai diwylliant ymchwil adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Felly mae ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant yn greiddiol i sut gaiff y wobr hon ei diffinio a’i hasesu.

Rydym yn cydnabod bod ymchwilwyr gyrfa gynnar yn profi amgylcheddau ymchwil mewn gwahanol ffyrdd, a bod rhwystrau – boed yn strwythurol, diwylliannol neu ymarferol – yn gallu llywio mynediad at gyfleoedd a chynnydd. Mae cefnogi YGG yn golygu gweithio’n bwrpasol i leihau’r rhwystrau hyn a chreu amodau lle gall ystod ehangach o ymchwilwyr gyfrannu a llwyddo.

Mae’r wobr hon yn gwerthfawrogi cyfraniadau sy’n arddangos dulliau mwy cynhwysol a meddylgar tuag at arweinyddiaeth ac adeiladu cymuned. Gall hyn gynnwys cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gwella hygyrchedd, creu mannau ac arferion cynhwysol, neu ehangu cyfranogiad mewn cyfleoedd ymchwil a datblygu.

Mae enwebiadau ar agor i:

  • Ymchwilydd Gyrfa Gynnar unigol
  • grŵp o Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar

Rydym yn diffinio Ymchwilydd Gyrfa Gynnar (YGG) fel rhywun sydd o fewn 8 mlynedd o gwblhau ei PhD (neu brofiad ymchwil cyfwerth), heb gynnwys unrhyw saib gyrfa. Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr yn gweithio ar draws y byd academaidd, diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid er elw. Rydym hefyd yn croesawu enwebiadau gan, ac ar gyfer, Ymchwilwyr Annibynnol. Noder nad yw ymchwilwyr doethurol (myfyrwyr PhD) yn gymwys am y wobr hon. 1

Dylai enwebeion fod wedi’u lleoli yng Nghymru neu’n gwneud cyfraniad amlwg i’r amgylchedd ymchwil yng Nghymru. Gall gweithgaredd cymwys gael ei gynnal ar draws y byd academaidd, y sector cyhoeddus a phreifat, diwydiant, sefydliadau nid er elw neu drwy gydweithredu traws-sector.

¹ Os nad ydych yn sicr os yw enwebai yn cwrdd â’r diffiniad o YGG, gan gynnwys achosion lle gall unigolion fod yn dal yn astudio am ddoethuriaeth ochr yn ochr â chyflogaeth neu â llwybrau gyrfa aflinol, rydym yn eich annog i gysylltu â ni ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk i drafod eich sefyllfa. Er nad yw ymchwilwyr doethurol yn gymwys fel arfer, rydym yn cydnabod y gall unigolion hunan-adnabod fel rhan o’r gymuned YGG mewn rhai amgylchiadau ac rydym yn fodlon darparu canllawiau pellach.

Gall rhywun o du mewn neu du allan i sefydliad yr enwebai gyflwyno enwebiadau:

  • cyfoedion neu gydweithwyr
  • rheolwyr, goruchwylwyr neu fentoriaid
  • cydweithredwyr neu bartneriaid

I gyflwyno enwebiad, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein erbyn dydd Gwener, 29 Mai 2026 (4:00 pm): Gwobr YGG Hywel Thomas am Ddiwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol.

Gofynnir i chi ddarparu trosolwg byr o gyfraniad yr enwebai, gan roi tystiolaeth o sut mae wedi cefnogi YGG eraill a chyfrannu at ddiwylliant ymchwil cadarnhaol a chynhwysol.

¹ Os nad ydych yn sicr os yw enwebai yn cwrdd â’r diffiniad o YGG, gan gynnwys achosion lle gall unigolion fod yn dal yn astudio am ddoethuriaeth ochr yn ochr â chyflogaeth neu â llwybrau gyrfa aflinol, rydym yn eich annog i gysylltu â ni ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk i drafod eich sefyllfa. Er nad yw ymchwilwyr doethurol yn gymwys fel arfer, rydym yn cydnabod y gall unigolion hunan-adnabod fel rhan o’r gymuned YGG mewn rhai amgylchiadau ac rydym yn fodlon darparu canllawiau pellach.

Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais, adolygir enwebiadau, a byddwn yn cysylltu ag enwebeion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd yr enwebwyr a’r enwebeion yn cael eu hysbysu os yw’r cais yn cyrraedd y rhestr fer.

Os na fyddwch yn clywed gennym erbyn 17eg Mehefin 2026, dylech gymryd nad yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus y tro hwn.

yn ôl i'r brig