Medal Dillwyn ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol 2026: Dr Hana D’Souza

Mae Dr Hana D’Souza wedi ennill Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol, i gydnabod ei gwaith yn cefnogi plant gyda chyflyrau niwroddatblygiadol ac yn eiriol drostynt. 

Mae Hana yn seicolegydd datblygiadol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n defnyddio ei hymchwil i herio disgrifiadau negyddol o gyflyrau o’r fath, yn enwedig syndrom Down. Mae hi’n arwain y grŵp ymchwil rhyngddisgyblaethol Cardiff Babylab, sy’n cyfuno seicoleg, dulliau cyfrifiadurol, peirianneg ac ymarfer clinigol i archwilio sut mae sgiliau canolbwyntio a symud plant ifanc yn effeithio ar ddysgu mewn lleoliadau bob dydd. 

Un o’r prif ganlyniadau yw ecosystem TinyExplorer, sef camera a wisgir ar y pen ac adnodd dadansoddi ffynhonnell agored, sydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu a phrosesu data am brofiadau bob dydd plant ifanc sydd â syndrom Down a’r rheini sydd hebddo. 

Mae ymchwil Hana yn cael ei lywio gan ymrwymiad i wella annibyniaeth, cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn ymhlith plant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol, ac mae wedi cael effaith bwysig ar waith polisi sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc. 

Mae ei hymchwil wedi cael ei gyflwyno yn y Senedd, ac wedi cyfrannu at Addewid Babanod Cymru Plant yng Nghymru a menter 1,000 Diwrnod Cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

yn ôl i'r brig