Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau 2018
Enillydd Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau oedd Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Cydnabyddir Dr Jewell am ei hymchwil ym maes astudiaethau cyfieithu, yn enwedig cyfieithiadau llenyddol o ieithoedd Ewropeaidd i’r Gymraeg. Mae ei hymchwil cyfredol yn ystyried cyfieithu proffesiynol, llenyddiaeth i fenywod, a’r berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a’r Eidal.
Dywedodd Dr Jewell:
“Mae’n anrhydedd i fi dderbyn Medal Dillwyn yn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau. Rwyf i wrth fy modd fod fy ymchwil mewn astudiaethau cyfieithu wedi derbyn y fath gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Byddwn yn benodol yn hoffi diolch i fy nghydweithwyr a fy nheulu am eu cefnogaeth hanfodol ar ddechrau fy ngyrfa academaidd.”