Medal Hugh Owen 2024

Mae’r Athro Gary Beauchamp wedi derbyn medal Hugh Owen Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.

Mae’r Athro Beauchamp wedi cael gyrfa hir a nodedig mewn ymchwil addysg yng Nghymru. Mae ei waith wedi’i wreiddio’n ddwfn ar addysg plant yn y wlad, ac yn cael effaith bositif arno. Mae’n tynnu sylw at lais dysgwyr, yn enwedig llais plant ysgolion cynradd, gan adlewyrchu ei bwysigrwydd ym mholisi addysg Cymru.

Yn ogystal, mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol, yn enwedig wrth ddefnyddio technolegau rhyngweithiol mewn dysgu ac addysgu. Mae ei ymrwymiad i feithrin gallu ymchwil a chydweithio ag ymchwilwyr gyrfa gynnar yn cefnogi datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr addysg yn sylweddol.

“Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y Fedal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r fedal yn cynrychioli’r diwedd mewn perthynas â’r gefnogaeth, yr her a’r ysbrydoliaeth rwyf wedi’i gael  gan lawer o gydweithwyr, ym maes addysg uwch ac addysg yn ehangach, yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”

Yr Athro Gary Beauchamp