Llywio Blaenoriaethau’r Senedd: Sesiwn Friffio Ar-lein Amser Cinio

Mae’r Senedd wedi sefydlu ei phwyllgorau ar gyfer y tymor Seneddol hwn, ac mae’n cyhoeddi ei hymgynghoriadau a fydd yn llywio eu blaenoriaethau am y pedair blynedd nesaf.

Amlinellodd sesiwn friffio ddiweddar i Gymrodyr, oedd yn cynnwys y Fonesig Elan Closs Stephens, Manon Antoniazzi FLSW (Prif Weithredwr y Senedd), a Dr Fiona Dakin (ein Pennaeth Polisi Cyhoeddus), sut mae’r broses yn gweithio a sut gallwch ymateb yn effeithiol i’r ymgynghoriad.

1. Yr Hanfodion

Y Senedd yw Senedd Cymru, sy’n cynnwys Aelodau etholedig o bob plaid. Un o brif rolau’r Senedd yw cynnig craffu trawsbleidiol o’r llywodraeth ac un o’r ffyrdd pwysicaf y mae’r Senedd yn gwneud y gwaith hwn yw drwy bwyllgorau.

2. Y Cyfle

Mae pwyllgorau newydd wedi’u sefydlu yn dilyn yr etholiad Senedd diweddar: https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/pwyllgorau/.

Yr wythnos diwethaf, mae pob pwyllgor wedi cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn a thystiolaeth er mwyn helpu i lywio eu blaenoriaethau ar hyd tymor cyfan y Senedd: https://senedd.cymru/busnes-y-senedd/pwyllgorau/ymgynghoriadau/.

3. Sut i ymateb yn effeithiol

  • Mae gwleidyddwyr yn gyffredinolwyr. Mae hyn yn golygu bod angen i chi nodi’r hanfodion. Peidiwch â chymryd unrhyw wybodaeth benodol sy’n seiliedig ar bwnc yn ganiataol, a strwythurwch yr ymateb yn glir.
  • Ymatebwch yn onest i’r ymgynghoriad, gan roi barn ddiffuant yn seiliedig ar eich gwybodaeth am y maes ehangach o ran yr hyn y dylid ei flaenoriaethu. Ceisiwch beidio â’i ddefnyddio fel cyfle i hyrwyddo eich arbenigedd eich hun neu eich gwaith eich hun.
  • Defnyddiwch dystiolaeth o ystod o ffynonellau, a pheidiwch â bod yn rhy ddiymhongar am ehangder eich gwybodaeth ar draws eich maes.
  • Ystyrir yn gyffredinol ei fod yn fwy effeithiol i gyflwyno ymatebion unigol, ar wahân, yn hytrach nag un ymateb wedi’i gyd-lofnodi gan sawl arbenigwr.

4. Beth yw’r pwynt?

Mae gan holl Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru arbenigedd a thystiolaeth i’w rhannu a fydd yn hynod ddefnyddiol i’r pwyllgorau hyn. Rydym yn eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn, am dri phrif reswm:

  1. Os ydych yn gwneud eich hun yn hysbys i’r pwyllgor ac i dîm staff y Senedd fel arbenigwr o’r cychwyn cyntaf, rydych yn fwy tebygol o gael eich galw am eich arbenigedd eto yn y dyfodol.
  2. Gallai’r cyfle helpu i sefydlu eich enw da, a gallai gynnig buddion i’ch gyrfa.
  3. Yn bwysicaf oll, mae buddion helaeth i Gymru pan gaiff penderfyniadau eu gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth ddibynadwy ac annibynnol. Mae hyn yn rhan bwysig o genhadaeth elusennol y Gymdeithas.

yn ôl i'r brig