Enwebiadau ar gyfer Ysgrifennydd Cyffredinol

Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol yn un o bum swyddog y Gymdeithas ac “yn atebol i’r Cyngor am gynnal busnes cyffredinol y Gymdeithas”. Ceir disgrifiad llawn o’r rôl yma:

Alan Shore

Yr Athro Alan Shore yw ein Hysgrifennydd Cyffredinol presennol, sy’n gymwys i gael ei ailethol am ail dymor, ac mae wedi datgan ei barodrwydd i sefyll eto.

Croesewir enwebiadau eraill hefyd. Mae’r holl Gymrodyr yn gymwys i gael eu hystyried.

Penodir yr Ysgrifennydd Cyffredinol am gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 20 Mai 2020. Caiff y Cymrawd a etholir geisio ailetholiad am ail dymor, ond ni fydd yn gymwys am dymor arall wedi hynny.

I gyflwyno enwebiad ar gyfer Ysgrifennydd Cyffredinol, cwblhewch y Ffurflen Enwebu a’i dychwelyd i Amanda Kirk erbyn 5.00pm ddydd Llun 23 Mawrth.

Mae angen o leiaf ddau enwebydd. Drwy gyflwyno enwebiad, rydych chi’n cadarnhau bod y Cymrawd a enwir yn fodlon sefyll etholiad.