Ymunwch â’n grŵp Cynghori Cyfnewid Gwybodaeth newydd
Rydym yn chwilio am Gymrodyr sydd â phrofiad cryf o ddefnyddio tystiolaeth i lywio llunio polisïau i ddod yn aelodau o Grŵp Cynghori Cyfnewid Gwybodaeth.
Bydd y grŵp yn cynghori’r Gymdeithas ar sefydlu Mecanwaith Cyfnewid Gwybodaeth newydd i’r Gymdeithas a’i weithgarwch, gan gynorthwyo blaenoriaeth strategol y Gymdeithas i “Ddatblygu ein rôl fel pŵer ymgynnull a brocer gwybodaeth ar gyfer craffu ar faterion cymhleth, byd go iawn a’u trafod. Cymhwyso’r mewnwelediadau arbenigol hyn i ddatblygu rôl ac enw da’r Gymdeithas am gynhyrchu cyngor polisi annibynnol dibynadwy sy’n galluogi llunwyr polisi i fynd i’r afael â heriau ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.“
Bydd aelodau’r Grŵp Cynghori yn cael eu ffurfio o unigolion sydd â hanes profedig o ddefnyddio tystiolaeth i lywio llunio polisïau. Noder y bydd disgwyl i bob aelod o’r grŵp ystyried pob maes polisi yn gyfartal, yn hytrach na chanolbwyntio ar feysydd diddordeb unigol. Er y byddwn yn anelu at gynnwys amrywiaeth o ddisgyblaethau, mae’r arbenigedd rydyn ni’n ei geisio yn ymwneud â mecanwaith cyngor, nid y maes pwnc.
Bydd y grŵp yn gyfrifol am oruchwylio’r Mecanwaith Cyfnewid Gwybodaeth. Bydd Cymrodyr nad ydynt yn rhan o’r grŵp yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gwaith hwn, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd ar ystor eang o bynciau penodol. Mewn cyferbyniad, bydd gan aelodau’r grŵp arbenigedd penodol mewn mecanweithiau llunio polisïau a Chyfnewid Gwybodaeth ei hun.
Nodwch hefyd na fydd y grŵp yma’n gyfrifol am ffurfio safbwynt polisi Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’i fod ar wahân i’n Grŵp presennol ar Bolisi Addysg Uwch/Ymchwil ac Arloesi.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at y Cylch Gorchwyl.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod o’r grŵp, cyflwynwch ddatganiad byr (Uchafswm o un dudalen) yn amlinellu eich diddordeb yn y rôl, a sut y byddai eich profiad a’ch arbenigedd yn cynorthwyo gwaith y Grŵp Cynghori i clerc@cddc.cymru.ac.uk erbyn hanner nos dydd Sul 27 Medi. Bydd aelodau’r grŵp yn cael eu dewis gan Gadeirydd a benodir gan Gyngor CDdC, yn seiliedig ar brofiad, arbenigedd, a chydbwysedd.