Trwy Brism Iaith
23-25 Tachwedd, Zoom
Bydd y symposiwm rhithwir hwn yn dwyn ynghyd ystod eang o bobl sydd â diddordeb mewn dwyieithrwydd ac amlieithrwydd i ystyried cwestiynau megis:
- Beth yw iaith a beth yw dwyieithrwydd ac amlieithrwydd?
- Sut ydyn ni’n cynhyrchu iaith a sut mae’r meddwl dwyieithog ac amlieithog yn prosesu iaith?
- I ba raddau y mae Cymru’n gwneud y gorau o botensial deallusol, cymdeithasol a chreadigol ei dwyieithrwydd?
- Sut y gellir datgloi’r potensial hwn er mwyn gwireddu amcanion y llywodraeth o hybu diwylliant bywiog ac o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Cofrestrwch yma
Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlithoedd, sgyrsiau a sesiynau rhyngweithiol gan gyfrannwyr rhyngwladol ac ymarferwyr diwylliannol blaenllaw, a mae yna groeso i bawb.
Mae’r symposiwm wedi’i guradu gan grŵp o academyddion blaenllaw yn y maes, o dan arweiniad yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r siaradwyr a ganlyn ymysg y siaradwyr a fydd yn cymryd rhan:
- Antonella Sorace, Prifysgol Caeredin.
- Y nofelydd a’r academydd Patrick McGuinness.
- David Gramling, Athro cysylltiol mewn Astudiaethau Almaeneg ym Mhrifysgol Arizona.
- Alison Phipps, Prifysgol Glasgow
Bydd y digwyddiad ar-lein yn cael ei gynnal dros dri diwrnod, gyda sesiwn 90 munud yn y bore am 10:00, gweithdy amser cinio, sesiwn brynhawn 90 munud am 14:00 a sesiwn awr gyda’r hwyr.
Bydd cofrestru unwaith yn rhoi mynediad i bob sesiwn, ond mae hefyd groeso i bobl fynychu sesiynau unigol.