Ein gwaith eirioli diweddaraf: Medi 2026
Rydym yn parhau i eirioli yn y sffêr cyhoeddus dros werth ymchwil, gwybodaeth ac arloesedd er budd Cymru. Mae ymyriadau allweddol yn cynnwys:
- Ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen i gyfrannu at Adolygiad Llywodraeth Cymru o Addysg Uwch.
- Fe wnaethom ymateb i bob un o’r wyth ymgynghoriad blaenoriaethu gan bwyllgor y Senedd, yn ogystal â’r gyllideb ddrafft, gan dynnu sylw at sut mae ymchwil Cymru a gwaith y Gymdeithas yn berthnasol i’w cylch gorchwyl.
- Ymgysylltiad ffurfiol ac anffurfiol gyda’r Prif Weinidog, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, a Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad.
- Rydym wedi ysgrifennu at bob un o’r 96 AS i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas a’n gwaith.
- Ymgysylltiad ffurfiol gyda’r Ysgrifennydd Parhaol, gan arwain at anerchiad sydd i ddod i uwch weision sifil.
- Cyflwyno’r achos dros Gymru gyda rhanddeiliaid y DU, yn arbennig fel rhan o Gynghrair yr Academïau Celtaidd, gyda chyfarfod ar Gynnal Galluoedd Cenedlaethol, sydd i ddod yng Nghaeredin.