Ein gwaith eirioli diweddaraf: Medi 2026

Rydym yn parhau i eirioli yn y sffêr cyhoeddus dros werth ymchwil, gwybodaeth ac arloesedd er budd Cymru. Mae ymyriadau allweddol yn cynnwys:

  • Ffurfio grŵp gorchwyl a gorffen i gyfrannu at Adolygiad Llywodraeth Cymru o Addysg Uwch.
  • Fe wnaethom ymateb i bob un o’r wyth ymgynghoriad blaenoriaethu gan bwyllgor y Senedd, yn ogystal â’r gyllideb ddrafft, gan dynnu sylw at sut mae ymchwil Cymru a gwaith y Gymdeithas yn berthnasol i’w cylch gorchwyl.
  • Ymgysylltiad ffurfiol ac anffurfiol gyda’r Prif Weinidog, Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, a Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad.
  • Rydym wedi ysgrifennu at bob un o’r 96 AS i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas a’n gwaith.
  • Ymgysylltiad ffurfiol gyda’r Ysgrifennydd Parhaol, gan arwain at anerchiad sydd i ddod i uwch weision sifil.
  • Cyflwyno’r achos dros Gymru gyda rhanddeiliaid y DU, yn arbennig fel rhan o Gynghrair yr Academïau Celtaidd, gyda chyfarfod ar Gynnal Galluoedd Cenedlaethol, sydd i ddod yng Nghaeredin.

yn ôl i'r brig