Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Peirianneg, y Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg 2026: Dr David Williams

Mae Dr David Williams wedi ennill Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Peirianneg, y Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg, i gydnabod ei atebion arloesol ac ymarferol ym maes technegau delweddu uwch. 

Mae David yn beiriannydd meddygol yng Nghyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol Prifysgol Caerdydd, ac mae eisoes wedi cyflawni cryn dipyn ar gyfer rhywun sydd mor gynnar yn ei yrfa. 

Mae’n defnyddio ei arbenigedd peirianneg ym meysydd delweddu meddygol a biomecaneg glinigol, ac yn sicrhau datblygiadau nodedig yn y defnydd o dechnegau delweddu uwch, fel delweddu cyseiniant magnetig (MRI) a phelydrau-X deublaen (biplane X-ray) 

Mae’r technegau hyn yn dadansoddi biomecaneg gyhyrysgerbydol, ac yn gallu mesur sut mae’r asgwrn cefn a’r cymalau yn gweithio yn ystod symudiadau go iawn. Mae hyn yn cynnig nifer o fanteision ym meysydd orthopaedeg, adsefydlu, rheoli clefydau a chynllunio llawdriniaethau. Gallai gwaith David fod wedi helpu i ddarparu ateb i bobl sy’n dioddef problemau gyda’r ffêr, y pen-glin, yr ysgwydd neu’r cefn. 

Mae’r gwaith eithriadol hwn eisoes wedi denu symiau sylweddol o gyllid ymchwil a nifer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys sawl un gan Gymdeithas Ymchwil Orthopaedig Prydain. 

yn ôl i'r brig