Medal Gwen John 2026: Professor Kirsti Bohata
Mae Medal Gwen John gyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau wedi cael ei dyfarnu i’r Athro Kirsti Bohata FLSW, am ei gwaith yn hyrwyddo’r celfyddydau a’r dyniaethau, yn ogystal â’i henw da ym maes astudiaethau llenyddol.
Mae dyfarnu Medal Gwen John i’r Athro Bohata yn cydnabod nid yn unig ei hymchwil eithriadol ei hun, ond hefyd ei rôl fel eiriolwr brwd dros bwysigrwydd y celfyddydau a’r dyniaethau i gymdeithas Cymru.
Mae hyn yn cael ei weld yn y rôl flaenllaw mae hi wedi’i chwarae mewn sefydlu Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru, ac yn ei chyfraniad at weithgareddau sy’n gosod y celfyddydau a’r dyniaethau wrth wraidd gwaith ar iechyd y blaned, Iaith Arwyddion Prydain, a chefnogi menywod a merched sydd wedi goroesi trais.
Mae’r angerdd hwn dros werth cymdeithasol y celfyddydau a’r dyniaethau wedi’i seilio ar yrfa ymchwil sydd wedi ei gweld hi’n helpu i sicrhau £5 miliwn mewn grantiau. Mae diddordebau ymchwil Kirsti yn cynnwys llenyddiaeth Saesneg Cymru, gyda phwyslais ar ffyrdd rhyngddisgyblaethol o ymdrin â rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, newid hinsawdd, tirwedd a lle.
Mae hi wedi arloesi ym maes llenyddiaeth LHDTC+ yng Nghymru; enghraifft ddiweddar nodedig yw ei thrawsgrifiad golygedig o ddyddiaduron yr awdur a’r diwydiannwr o Gymru, Amy Dillwyn.