Medal Alfred Russel Wallace: Yr Athro Valentina Escott-Price
Mae Medal gyntaf Alfred Russel Wallace Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y Biowyddorau a Meddygaeth wedi cael ei dyfarnu i’r Athro Valentina Escott-Price am ei gwaith arloesol i geisio deall dementia.
Mae enw da Cymru fel gwlad sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil i glefydau niwroddirywiol yn ddyledus i raddau helaeth i waith Valentina, sy’n Athro biowybodeg a bioystadegau.
Mae ganddi enw da rhyngwladol am ddefnyddio dulliau cyfrifiadurol a dysgu peirianyddol i ddeall dementia. Mae hyn yn cynnwys astudiaeth ddiweddar a ddefnyddiodd ddysgu peirianyddol ar un o setiau data genetig mwyaf y byd ar gyfer clefyd Alzheimer.
Mae ei hymchwil wedi tynnu sylw at rôl cwsg, anafiadau i’r pen a chyflyrau iechyd meddwl mewn dementia, tra’n helpu hefyd i fesur maint y cyflwr yng Nghymru. Oherwydd ei harbenigedd helaeth, mae hi wedi helpu’r GIG i baratoi ar gyfer triniaethau Alzheimer sy’n addasu’r clefyd, ac wedi cynghori Llywodraeth y DU ar ei strategaeth dementia.
Yn ogystal â’i record ragorol o gyhoeddiadau ac o sicrhau grantiau ymchwil, mae ganddi ymrwymiad cryf i ddatblygu talent y dyfodol ym maes gwyddor data, ac i gynnal enw da a chryfder Cymru yn y sector.