Cyfle i ymuno â’n Panel Adolygu Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan Gymrodyr sydd â diddordeb bod ar Banel Adolygu newydd.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn rhoi’r cyfle i Gymrodyr ymgeisio am Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC i ariannu, hyrwyddo neu gefnogi digwyddiadau maent yn rhan o’r gwaith o’u trefnu.  

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan Gymrodyr sydd â diddordeb bod ar y panel adolygu hwn. 

  • Bydd y Panel yn cynnwys 6 Chymrawd – gyda 3 Cymrawd yn cael eu dewis i gymryd rhan ym mhob rownd.
  • Mae yna 3 ddyddiad cau bob blwyddyn ar gyfer ceisiadau. 
  • Mae ceisiadau a dderbynnir yn cael eu hadolygu a’u sgorio gan staff yn erbyn blaenoriaethau strategol CDdC.  Ym mhob rownd, bydd yr aelodau o’r Panel Adolygu a ddewisir yn asesu’r ceisiadau yn erbyn y system sgorio, gan wneud penderfyniad terfynol ar ddyrannu’r arian.
  • Mae’r trafodaethau rhwng Aelodau’r Panel yn digwydd drwy e-byst ac yn cael eu harwain gan un aelod o’r Pwyllgor Dibenion Cyffredinol (PDC), fel Cadeirydd
  • Mae angen i aelodau o’r Panel Adolygu a ddewisir ddarllen pob cais a dderbynnir yn y rownd honno yn ogystal â’r asesiad staff, gan yna drafod gyda gweddill y Panel Adolygu er mwyn dod i gytundeb ar eu hargymhellion terfynol.
  • Croesawir ceisiadau gan Gymrodyr o’r tu allan i Gymru.

Bydd y PDC yn ystyried pob datganiad o ddiddordeb erbyn 5 Mehefin a byddwn yn anfon e-bost atoch yn nodi eu penderfyniad.

Cylch Gorchwyl

Ymgeisio: Cliciwch yma i gwblhau y ffurflen gais byr.

Dyddiad cau: 5pm 20 Mai 2025

Ymholiadau: Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyfle yma, cysylltwch â ni ar lsw@wales.ac.uk

yn ôl i'r brig