Dewch i weithio gyda ni: swyddi wag

Rydym yn recriwtio ar gyfer y tair swydd ganlynol ar hyn o bryd:

  • Uwch Swyddog Polisi Cyhoeddus
  • Cynorthwyydd Gweithrediadau
  • Cynorthwyydd Gweinyddol

Uwch Swyddog Polisi Cyhoeddus

Oriau: 0.8CALl (28 awr yr wythnos) | Cyfnod penodol: Blwyddyn o’r penodiad

Cyflog: Gradd D: £33,662 – £39,559 (pro rata)  

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: hanner nos ddydd Sul 23 Awst

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Polisi Cyhoeddus profiadol i gydlynu ein gwaith cyngor polisi a materion cyhoeddus – gan gyfrannu at gyflawni un o’n pedair prif flaenoriaeth strategol: “Cyfrannu at ddatrysiadau polisi mawr drwy gynnig cyngor annibynnol a galluogi cyfnewid gwybodaeth”. Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r brwdfrydedd i ysgogi ein Cymrodyr anhygoel a’n rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod ein gwaith yn effeithiol.

Bydd deiliad y rôl hefyd yn gyfrifol am ddarpariaeth Gymraeg a gwaith dwyieithog y Gymdeithas. 

Dyma gyfle cyffrous i rywun sydd eisiau cyfuno gwaith hyblyg â rôl ddiddorol ac amrywiol mewn tîm deinamig. Rydym yn bwriadu cyflogi ar sail cyfnod penodol o flwyddyn (i ddechrau), ac ar sail 0.8CALl, ond yn barod i ystyried rhannu’r swydd.  

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwythwch y pecyn swydd yma.

Postiwyd: 28 Gorffennaf 2026


Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer swyddi dau Gynorthwyydd: Cynorthwyydd Gweinyddol a Chynorthwyydd Gweithrediadau. Er bod gwahanol ffocws i’r ddwy swydd, maent yn rhannu llawer o’r un sgiliau a gwerthoedd. Os ydych o’r farn bod eich profiad a’ch sgiliau yn addas ar gyfer y ddwy swydd, rydym yn croesawu ceisiadau am y ddwy swydd. Caiff pob cais ei ystyried yn annibynnol yn ôl ei haeddiant, ac ni fydd ymgeisio am y ddwy swydd yn rhoi eich cais dan unrhyw anfantais mewn unrhyw ffordd.

Cynorthwyydd Gweithrediadau

Oriau: 28awr yr wythnos (0.8 Cyfwerth â Llawn Amser) | Cyfnod penodol: Blwyddyn o’r penodiad

Gradd B: £25,178 – £27,241 (pro-rata)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: hanner nos ddydd Sul 23 Awst

Dyma gyfle cyffrous i chwarae rhan hollbwysig o ran gyrru Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ei blaen: sicrhau ein bod yn gweithredu hyd gorau ein gallu – fel sefydliad effeithiol a phroffesiynol sy’n cael ei reoli’n dda – fel y gallwn gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol er budd Cymru. Bydd ein Cynorthwyydd Gweithrediadau yn darparu cymorth amhrisiadwy i’r tîm Gweithrediadau, Cyllid a Llywodraethu i sicrhau bod ein sefydliad yn cael ei redeg yn ddidrafferth.

Byddai’r swydd hon yn addas ar gyfer unigolyn rhagweithiol, trefnus sy’n rhoi sylw i fanylion ac a fyddai’n mwynhau swydd amrywiol yn cefnogi tîm deinamig, a bod yn rhan ohono. Ar gyfer rôl lefel Cynorthwyydd, nid ydym yn disgwyl i chi fod â phrofiad sylweddol o waith blaenorol, ond rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu ysgogi ei hun, sydd ag awydd i ddysgu, ac mae agwedd ragweithiol wrth gynorthwyo pobl eraill a dod o hyd i ddatrysiadau yn hanfodol.

Mae CDdC yn cefnogi unigolion sydd wrthi’n dysgu Cymraeg. Nid yw bod yn rhugl yn y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, a’r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol.

Lawrlwythwch y pecyn swydd yma.

Postiwyd: 29 Gorffennaf 2026


Cynorthwyydd Gweinyddol

Oriau: Rhan amser: 15awr yr wythnos dros gyfnod o 4 i 5 o ddiwrnodau | Cyfnod penodol: Blwyddyn o’r dyddiad penodi

Gradd B: £25,178 – £27,241 (pro-rata)

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: hanner nos ddydd Sul 23 Awst

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig ac effeithlon i ymuno â’n sefydliad croesawgar sy’n prysur dyfu. Dyma gyfle cyffrous i gefnogi’r gwaith o gyflwyno ystod eang o weithgareddau ar draws sefyllfa academaidd, gyhoeddus a gwleidyddol Cymru. Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cefnogi cyfarfodydd, gwaith cyfathrebu, a meysydd eraill yn CDdC wrth iddynt ddatblygu. O’r herwydd, mae’n cynnig profiad cyflawn, gwerth chweil, naill ai i weithiwr gweinyddol profiadol neu i rywun sydd awydd datblygu ei yrfa.

Mae hon yn swydd hyblyg, ran amser am gyfnod penodol o flwyddyn i ddechrau a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i’n tîm bach a chyfeillgar i’n galluogi i gyflawni ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol er budd Cymru. Rydym yn chwilio am rywun hyblyg, cefnogol a threfnus. Ar gyfer rôl lefel Cynorthwyydd, nid ydym yn disgwyl i chi fod â phrofiad sylweddol o waith blaenorol, ond rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu ysgogi ei hun, sydd ag awydd i ddysgu, ac mae agwedd ragweithiol wrth gynorthwyo pobl eraill a dod o hyd i ddatrysiadau yn hanfodol.

Mae CDdC yn sefydliad dwyieithog sy’n cefnogi’r rhai sy’n siarad Cymraeg yn rheolaidd, yn ogystal â phobl sy’n dysgu’r Gymraeg ar hyn o bryd, waeth pa lefel. Nid yw bod yn rhugl yn y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, a’r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol.

Lawrlwythwch y pecyn swydd yma.

Postiwyd: 29 Gorffennaf 2026

yn ôl i'r brig